Cystadleuaeth 'Ble Mae'r Peryglon?'
Cystadleuaeth 'Ble Mae'r Peryglon?'
Mae yna wobrau ar gael i bobl ifanc ac ysgolion sy'n cymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch dŵr yn ystod haf 2025!
Mae ein hymgyrch diogelwch haf yn tynnu sylw at rai o'r peryglon sy'n gysylltiedig â gweithgareddau cyffredin yn ystod yr haf ac yn rhannu cyngor defnyddiol i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Nod ein cystadleuaeth 'Ble Mae’r Peryglon?' yw addysgu plant am ddiogelwch dŵr a'u helpu i nodi'r peryglon posibl wrth dreulio amser yn y dŵr ac o’i gwmpas i'w helpu i gadw'n ddiogel dros yr haf – a byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o blant â phosibl yn cymryd rhan.
Gellir dod o hyd i awgrymiadau ar sut i gadw'ch hun yn ddiogel o amgylch y dŵr yma.
Sut i gymryd rhan
Mae dau grŵp oedran yn y gystadleuaeth - 7 ac iau a 7 i 11.
Mae setiau Lego ar gael ar gyfer enillwyr y wobr gyntaf, yr ail a'r drydedd wobr ym mhob categori.
Rydym hefyd yn cynnig rhodd o £100 i'ch ysgol os yw’r cais buddugol yn cael ei anfon o'r ysgol.
Gallwch lawrlwytho PDF y gellir ei argraffu o'r daflen Ble Mae’r Peryglon yma.
I gymryd rhan, e-bostiwch luniau/sganiau o'ch ceisiadau i cystadlaethau@tangogleddcymru.llyw.cymru
Fel arall, gallwch ei bostio at:
Tîm Diogelu ac Atal Tanau,
Gorsaf Dân y Rhyl,
Ffordd y Glannau,
Y Rhyl,
LL18 3PL.
**Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw, oedran ac ysgol y plentyn yn ogystal â rhif cyswllt ar y daflen**
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn yr holl gynigion yw 30 Mehefin.
Pob lwc!