Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Her Ymgyrch Bang 2024

Gyda Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn agosáu, mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod eich dathliadau'n ddiogel a phleserus i bawb.

Mae'r amser hwn o'r flwyddyn yn brysur yn draddodiadol i'r holl wasanaethau brys ledled Cymru, gyda lleiafrif bach o bobl yn defnyddio Noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt i gyflawni Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan roi eu hunain a phobl eraill mewn perygl o anaf.

Gall Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn gyfnod gofidus a brawychus i aelodau bregus a hŷn ein cymuned. Felly ystyriwch bobl eraill wrth ddathlu.

Eleni, mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyfle i bobl ifanc roi'n ôl i'w cymuned a bod â chyfle o ennill gwobrau gwych iddynt eu hunain neu eu clwb.

Mae Her Ymgyrch Bang yn ffordd wych i bobl ifanc ddod at ei gilydd gyda'u ffrindiau a chynorthwyo yn eu hardal leol

Os ydych yn cael trafferth cael syniadau, peidiwch â phoeni. Rydym wedi rhoi awgrymiadau isod. Ond yn y pen draw, eich penderfyniad chi ydyw.

Syniadau her Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

  • Codwch ymwybyddiaeth o beryglon Tân Gwyllt adref ac i ffwrdd
  • Gwellwch ardal ddiffaith er mwyn atal tanau
  • Diogelwch aelodau bregus o'r gymuned yn ystod cyfnod Ymgyrch Bang
  • Ystyriwch ffyrdd o gadw anifeiliaid yn ddiogel yn ystod yr amser hwn o'r flwyddyn

Syniadau PACT

  • Creu prosiect sy'n cynorthwyo pobl hyn deimlo’n ddiogel dros gyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
  • Creu fideo byr yn eich ysgol neu glwb ieuenctid sy’n hyrwyddo cadw’n ddiogel dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
  • Creu prosiect sy’n gwella eich mannau gwyrdd lleol.
  • Ymgyrch er mwyn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd i bobl ifanc sy’n cerdded i’r ysgol ac oddi yno dros fisoedd y gaeaf.

Syniadau Her Heddlu Gogledd Cymru

  • Edrych o gwmpas eich cymuned a gweld sut gallech wneud pobl yn fwy diogel yn y nosweithiau tywyllach.
  • Creu prosiect sy’n edrych ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sut mae’n effeithio ein cymunedau.
  • Creu ffordd y gallwch wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd yn eich cymuned.

Yr Her

• Rhaid i’ch Tîm fod yn rhan o grwp ieuenctid, clwb, dosbarth neu ysgol sydd wedi sefydlu
• Nid oes cyfyngiad ar y niferoedd o bobl a geir i ffurfio tîm
• Gall tîm gynnwys cymysgedd o oedrannau rhwng 5 a 18.
• Gall mwy nag un prosiect tîm fynd i gystadleuaeth
• Enillwch arian ar gyfer eich clwb, grwp neu ysgol!
• Gwobr 1af £750, 2il wobr £500, 3edd wobr £250,a gwobrau ariannol pellach i’w hennill!
• Rhaid i’ch prosiect gynorthwyo gwneud gwahaniaethi fywydau pobl eraill
• Cofrestrwch eich grwp o 14 Hydref - 11 Tachwedd!

Cliciwch yma i ddarllen ein Arweinlyfr Her Op Bang sy'n cynnwys yr holl reolau a rheoliadau y mae angen i chi wybod amdanynt.

I Gystadlu!

Bydd bob grŵp angen ymgynghorydd sy'n oedolyn – rhywun rydych yn ei adnabod ac sy'n hŷn na 17 oed. Bydd angen i'ch ymgynghorydd sy'n oedolyn gofrestru eich tîm gan ddefnyddio'r ddolen isod. Yna caiff eich Llyfr Cofnodion Ymgyrch Bang ei anfon atoch chi, ac rydych yn barod i fynd!

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen mewn PDF yma ac e bostiwch youthengagementofficer@northwales.police.uk

Pob lwc a pheidiwch ag anghofio ein cynnwys yn eich cyhoeddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol #ymherbang2023

Am wybodaeth bellach am Her Ymgyrch Bang, cysylltwch â Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid Heddlu Gogledd Cymru youthengagementofficer@northwales.police.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen