Beth i'w Ddisgwyl gan Archwiliad
Beth i'w Ddisgwyl gan Archwiliad
Fel yr Awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yng Ngogledd Cymru, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) yn cymryd rhan mewn strategaeth archwilio sy'n seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol.
Mae ein Datganiad Polisi Gorfodaeth yn nodi'r polisi cyffredinol a'r egwyddorion y bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn disgwyl i chwi eu dilyn.
Hefyd, mae holl waith archwilio GTAGC yn cael ei wneud yn unol â'r Côd Rheolyddion.
Yn unol â'r strategaeth hon, gallai eich safle gael ei archwilio gan y Gwasanaeth.
Er mwyn cynorthwyo'r 'person cyfrifol' i ddeall beth i'w ddisgwyl o archwiliad o'r fath, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi creu'r arweiniad canlynol ar y broses archwilio:-
Cynghorir chi i ddod yn gyfarwydd â'r dogfennau uchod a fydd yn gymorth ichi ddangos eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a fydd yn cael eu hasesu yn ystod unrhyw archwiliad o'ch safle.