Cystadleuaeth Lliwio Diogelwch y Nadoli
Cystadleuaeth Lliwio Diogelwch y Nadoli
Mae yna wobrau ar gael i bobl ifanc ac ysgolion sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth lliwio ein hymgyrch ddiogelwch ar gyfer Nadolig 2024!
Mae’r ymgyrch ddiogelwch dros yr ŵyl yn apelio ar bob un ohonom i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel trwy ddilyn awgrymiadau diogelwch tân sylfaenol a gofalu am ein gilydd y Nadolig hwn.
Mae ein cystadleuaeth lliwio yn pwysleisio mor bwysig yw’r neges i ofalu am ein gilydd y Nadolig hwn – a byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o blant â phosibl yn cymryd rhan.
Mae mwy o awgrymiadau am sut i gadw'n ddiogel dros y Nadolig ar gael yma.
Sut i gymryd rhan
Mae dau grŵp oedran yn y gystadleuaeth - 7 ac iau a 7 i 11.
Mae talebau Amazon o £50, £30 a £20 ar gael i enillwyr y wobr gyntaf, ail a thrydydd ym mhob categori.
Rydym hefyd yn cynnig rhodd o £100 i'ch ysgol os yw’r cais buddugol yn cael ei anfon o'r ysgol.
Gallwch lawrlwytho PDF o'r daflen liwio er mwyn ei hargraffu yma.
I gymryd rhan, e-bostiwch luniau / sganiau o'ch ymgais at
lliwio.nadolig@gwastan-gogcymru.org.uk
Fel arall, gallwch ei bostio at:
Tîm Atal Diogelwch Tân,
Gorsaf Dân y Rhyl,
Ffordd yr Arfordir,
Y Rhyl,
LL18 3PL.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pob cais yw 3 Rhagfyr.
Pob lwc!