Tipio Anghyfreithlon a Rheoli Gwastraff
Tipio Anghyfreithlon a Rheoli Gwastraff
Sbwriel - Mae tanau Rheoli Gwastraff fel arfer yn cynnwys sgipiau gwastraff a mathau eraill o gynhwysyddion mawr sy'n gallu lledaenu'n gyflym iawn.
Mae cynghori rheolwyr gweithle o'r peryglon sy'n gysylltiedig gyda gosod sgipiau mewn lleoliad gwael wedi dod yn rhan syml ond effeithiol o'n gwasanaeth dydd i ddydd. Rydym ni wedi ymrwymo i atal y rhai sy'n cychwyn tân rhag cynnau'r fath wastraff, ond mae'n ffaith pe byddai llai o sbwriel ar gael i'w losgi, byddai llai o danau.
Os hoffech adrodd am dipio anghyfreithlon, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0800 807060.
Cyn galw, cofiwch wneud yn siwr bod yr wybodaeth ganlynol ar gael:
- Union leoliad y sbwriel
- Y math o bethau sydd wedi cael eu gadael, er enghraifft teiars? A oes silindrau nwy wedi eu gadael?
- Ers faint mae'r domen sbwriel wedi bod yno?
- A ydyw ar dir yr Awdurdod Lleol neu dir preifat?