Dogfennau Canllaw
Dogfennau Canllaw
Er mwyn cynorthwyo busnesau i gydymffurfio â'u gofynion deddfwriaethol, mae'r llywodraeth wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau.
Cliciwch yma i lawr lwytho'r canllawiau perthnasol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cynhyrchu nifer o ddogfennau i'ch helpu i wneud penderfyniadau ynghylch nifer o faterion diogelwch tân.
Hefyd, rydym wedi cynnwys nifer o ddogfennau a gynhyrchwyd gan asiantaethau eraill sy'n darparu gwybodaeth am arferion gorau yn y sectorau canlynol:-
Tai - Diogelwch tân gan LACORS - sy'n berthnasol i lety preswyl , ac y mae ar gyfer landlordiaid, asiantau rheoli, tenantiaid a swyddogion gorfodi.
Oes gennych chi westeion sy'n talu - Mae'n rhoi gwybodaeth syml i bobl sydd berchen sefydliadau gwely a brecwast, gwestai, lletyau hunanarlwyo a thafarndai sy'n darparu llety ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith.
Diogelwch tân mewn tai neu fflatiau sy'n cael eu defnyddio i warchod plant - Llyfryn sy'n rhoi arweiniad i helpu pobl sy'n gwarchod plant sicrhau bod eu tai neu fflatiau yn ddiogel rhag tân a'u bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.