Systemau chwistrellu domestig
Ym mis Chwefror 2011, cafodd Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 ei basio gan Lywodraeth Cymru. Mae’n ei wneud yn orfodol i systemau llethu tân gael eu darparu mewn eiddo preswyl newydd ac wedi’u haddasu penodol ac mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno rheoliadau newydd sy’n gosod y gofynion technegol ar gyfer systemau o'r fath.
Bydd y mesur yn gwneud Cymru’r wlad gyntaf yn y byd i fod â deddfwriaeth sy’n ei gwneud hi’n orfodol i osod systemau chwistrellu yn yr holl gartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu.
Darllenwch y Canllaw i Systemau Chwistrellu