
Sut y gallwch chi gadw'n ddiogel yr haf hwn
Cael gwybod mwy
Mae #DimOnd1 peth bach yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin
Cael gwybod mwyMae #DimOnd1 peth bach yn ddigon i wneud cawlach o bethau yn y gegin
Ydych chi wedi profi'ch larwm mwg?
Cael gwybod mwyYdych chi wedi profi'ch larwm mwg?Deall Peryglon Dŵr
Helo! Eilian Roberts ydw i ac fel rhan o fy rôl dwi’n arwain ar hyfforddiant achub dŵr ar draws Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, ac yn eistedd ar y Fforwm Diogelwch Dŵr i Gymru Gyfan.
Wrth i'r tywydd ddechrau gwella, rydan ni'n ymuno efo gwasanaethau tân eraill ledled y DU ac yn gofyn i bobl gadw'n ddiogel wrth dreulio amser mewn dŵr ac o gwmpas dŵr.
Yn ddiweddarach y mis yma, byddwn ni’n cefnogi ymgyrch 'Be Water Aware' Cyngor y Penaethiaid Tân Cenedlaethol (NFCC) sy’n digwydd rhwng 24 a 30 Ebrill 2023.
Mae'r ymgyrch yn rhybuddio pobl am y risg o foddi damweiniol wrth dreulio amser mewn neu o gwmpas dŵr. Cafwyd 277 marwolaeth o foddi damweiniol yn y DU yn 2021 mewn lleoliadau mewndirol ac arfordirol. Doedd 40% o'r bobl a gollodd eu bywydau ddim yn bwriadu mynd i mewn i'r dŵr; llithro, baglu a disgyn oedd y prif achos iddyn nhw fynd i'r dŵr.
Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod yna risg wrth neidio i ddŵr; gall peryglon cudd a dŵr oer fod yn berygl bywyd i hyd yn oed y nofwyr cryfaf.
Hyd yn oed ar ddiwrnod cynnes, gall y tymheredd mewn dŵr agored aros yn oer iawn, gan achosi sioc dŵr oer, sef adwaith corfforol sy'n gallu ei gwneud hi'n anodd i berson reoli eu hanadlu, achosi panig a'i gwneud hi'n anodd nofio.
Os ydych chi'n canfod eich hun mewn trafferthion yn y dŵr, rydan ni’n eich annog i beidio â chynhyrfu a chofio 'Arnofio i Fyw'. Mae hyn yn golygu gwyro yn ôl yn y dŵr a lledaenu eich breichiau a'ch coesau i aros ar wyneb y dŵr, a rheoli eich anadl. Pan fydd effeithiau’r sioc dŵr oer wedi pasio, gwaeddwch am help neu nofiwch i ddiogelwch.
Os gwelwch chi rywun mewn trafferth yn y dŵr, ffoniwch 999. Gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych chi wrth yr arfordir. Os ydych chi wrth ddŵr mewndirol, gofynnwch am y gwasanaeth tân. Mae’n bwysig galw am gymorth yn hytrach na mynd mewn i'r dŵr i geisio eu hachub eich hun, gan fod hynny'n aml yn gallu arwain at y gwasanaethau brys yn gorfod dod o hyd i ac achub mwy o bobl o'r dŵr.
Trwy godi ymwybyddiaeth rwan, ein gobaith yw cadw pobl yn ddiogel a lleihau nifer yr anafiadau a marwolaethau mewn dŵr wrth i'r haf agosáu.
Gallwch ddarganfod mwy am gadw'n ddiogel yn y dŵr ac o'i gwmpas drwy wefan Parchwch y Dŵr yma.
Newyddion diweddaraf
Cael gwybod mwy Cael gwybod mwy
Postiwyd
Gwasanaethau Brys Golau Glas a Sefydliadau Golau Glas Cymru yn lansio llwyfan dysgu cenedlaethol ar ddiogelwch
Cael gwybod mwyGwasanaethau Brys Golau Glas a Sefydliadau Golau Glas Cymru yn lansio llwyfan dysgu cenedlaethol ar ddiogelwch
Postiwyd
Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) yn lansio Cynllun Mynediad Uniongyrchol arloesol
Cael gwybod mwyCyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) yn lansio Cynllun Mynediad Uniongyrchol arloesol
Postiwyd