Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Myfyrwyr

Diogelwch Myfyrwyr

Fyfyrwyr - Cadwch yn ddiogel

Hei fyfyrwyr! Da ni'n siwr bod eich meddyliau chi'n llawn dop o ffeithiau a ffigyrau, ond cofiwch gadw gwybodaeth sylfaenol am ddiogelwch tân mewn cof er mwyn eich cadw chi a'ch cyd fyfyrwyr mor ddiogel â phosibl.


Gwybodaeth am ddiogelwch i fyfyrwyr

Llyfryn i fyfyrwyr
Darllenwch y llyfryn hwn , sydd wedi ei ddylunio'n arbennig i'ch helpu i atal tanau a larymau diangen mewn neuaddau preswyl.

Os ydych yn byw mewn llety rhent, mae dyletswydd ar eich landlord i'ch cadw'n ddiogel rhag tân. Fe ddylai bod gennych larymau mwg gweithredol, drysau sydd yn cau eu hunain a llwybr dianc digonol o bob rhan o'r adeilad.


Archwiliadau larymau mwg i fyfyrwyr sydd yn byw mewn tai rhent

Rydym yn cynnig  archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim er mwyn gwneud yn siwr bod eich cartref yn ddiogel - CLICIWCH YMA    a nodwch eich manylion.

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim, ac mae'n ffordd wych o'ch helpu i wneud yn siwr y gallwch ddianc pe byddai'r gwaethaf yn digwydd yn eich cartref.


Gwybodaeth gyffredinol

Am ragor o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel yn y cartref, cliciwch ar y ddolen isod.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen