Holiadur Adborth
Holiadur Adborth
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn credu'n gryf ei bod hi'n hanfodol iddo werthuso pa mor effeithiol yw ei Archwiliadau Diogelwch Tân i Fusnesau yn unol â'i amcanion, yn cynnwys cyflwyno gwelliannau parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
Yn dilyn ymweliad byddwn yn gwahodd rheolwyr i gwblhau holiadur ar-lein sydd yn trafod yr ymweliad diogelwch tân, pa mor brydlon a chwrtais oedd y Swyddogion, beth oedd wedi ei gynnwys yn yr archwiliad, pa gyngor diogelwch tân a roddwyd, pa mor ddefnyddiol oedd yr ymweliad, sut y cafodd yr argymhellion eu dilyn, a oedd unrhyw gamau gorfodi ayb. At hyn, gellir mesur pa mor effeithiol oedd yr Archwiliad Diogelwch Tân drwy fesur lefelau risg cyn ac ar ôl yr Archwiliad Diogelwch Tân.
Bydd yr holl atebion yn cael ei casglu gan feddalwedd a fydd yn gwerthuso'r data ac yn creu adroddiad. Mewn amser bydd gennym ddata defnyddiol iawn er mwyn ein galluogi i adrodd am y canlyniadau yn y dyfodol.
Cliciwch yma i gwblhau'r holiadur.