Dogfennau Canllaw
Dogfennau Canllaw
Cliciwch yma i edrych ar neu lawrlwytho'r canllawiau perthnasol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Goledd Cymru wedi cynhyrchu nifer o ddogfennau a fydd yn eich cynorthwyo i wneud penderfyniad gwybodus ar nifer o bynciau yn ymwneud â diogelwch tân.
At hyn, rydym wedi cynnwys nifer o ddogfennau sydd wedi cael eu cynhyrchu gan asiantaethau eraill sydd yn rhannu gwybodaeth am arferion gorau ar gyfer y sectorau canlynol:-
Mae canllawiau Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS) ar Ddiogelwch Tân - Tai - yn berthnasol i letyau preswyl, ac y mae'n addas ar gyfer landlordiaid, asiantaethau rheoli, tenantiaid a gorfodwyr.
A oes gennych chi westeion sy'n talu? - Mae'r canllaw yn rhoi gwybodaeth syml i berchnogion lletyau gwely a brecwast bychan, gwestai, lletyau hunan arlwyo a thafarnau sy'n cynnig llety i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
Diogelwch Tân mewn tai neu fflatiau sy'n cael eu defnyddio i ofalu am blant - Canllaw i helpu pobl sydd yn gofalu am blant i wneud yn siwr bod eu tai neu fflatiau yn ddiogel rhag tân a'u bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.