Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.tangogleddcymru.llyw.cymru.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n rhedeg y wefan hon.

Rydyn ni’n awyddus bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau

  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun symud oddi ar y sgrin

  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydyn ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ffitio mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr

  • ni allwch addasu uchder y llinell na’r bylchau rhwng y testun

  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin

  • nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau

  • mae rhai o'n ffurflenni ar-lein yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

  • ni allwch neidio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin

  • mae cyfyngiad ar ba mor fawr y gallwch chwyddo'r map ar ein tudalen 'cysylltu â ni'

Adborth a gwybodaeth ar sut i gysylltu â ni

Os oes angen i chi gael unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn rhoi ymateb i chi mewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd yn ymwneud â’r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn cael unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cofiwch gysylltu drwy ddefnyddio’r ffurflen ‘cysylltu â ni’.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ddod draw am sgwrs wyneb yn wyneb

Dysgwch sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod:

Cynnwys Anhygyrch - diffyg cydymffurfio â rheoliadau

  • Mae rhai ffeiliau PDF yn eisiau teitlau a delwedd testun amgen.

Bydd y materion hyn yn cael eu datrys cyn diwedd 2024.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid ydyn ni’n bwriadu ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideos byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio rhag gorfod bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDFs a Word yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Rhagfyr 2023, rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydyn ni’n eu cyhoeddi yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideos byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio rhag gorfod bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi yn 2016. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 31 Ionawr 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 5 Ebrill 2022. Cynhaliwyd y prawf gan CSI Media.

Profwyd pob tudalen.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen