Hawlfraint Ac Ymwadiad
Oni bai y nodir yn wahanol, mae hawlfraint ac unrhyw hawliau eraill am ddeunydd ar y wefan hon yn eiddo i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Ar y sail ganlynol y mae gennych hawl i argraffu a lawrlwytho darnau o'r wefan:
- er gwybodaeth a/neu at ddefnydd personol yn unig y caniateir defnyddio'r dogfennau a'r graffeg cysylltiedig sydd ar y wefan;
- dim ond i'w gweld wedi hynny neu er mwyn eu hargraffu at ddefnydd personol y caniateir defnyddio unrhyw gopïau o'r tudalennau hyn wedi eu harbed ar ddisg neu drwy unrhyw gyfrwng arall;
- ni chaniateir addasu unrhyw ddogfennnau eu graffeg cysylltiedig mewn unrhyw ffordd;
- ni chaniateir defnyddio unrhyw graffeg sydd ar y wefan hon heb y testun sy'n gysylltiedig;
- rhaid i hysbysiad hawlfraint Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (h.y.: © Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 2005) ymddangos ym mhob copi;
- ni chaniateir atgynhyrchu na storio unrhyw ran o'r wefan hon, na'i chynnwys mewn unrhyw system neu wasanaeth adfer electronig gyhoeddus na phreifat heb ganiatâd ysgrifenedig Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o flaen llaw;
Cedwir pob hawl na roddir caniatâd ffurfiol iddynt yn y Telerau hyn.