Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhyddid Gwybodaeth

Fel mewn unrhyw sefydliad mawr, rydym yn dal llawer iawn o wybodaeth mewn amrywiaeth o ffurfiau. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth ar y wefan, fe allen ni fod modd inni ei darparu, yn ddibynnol ar gyfyngiadau cyfreithiol, ac weithiau ariannol. Os nad ydych yn siŵr pa wybodaeth rydych chi eisiau, fe fyddem ni'n eich annog yn gryf i drafod eich gofynion gyda ni er mwyn inni allu eich cynorthwyo i egluro'n union beth rydych yn chwilio amdano.

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gwarchod yr wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus yn gymhleth, ond o'i roi yn syml, mae'r ddeddfwriaeth ganlynol yn rhestru'r hyn y gallwch eich ddisgwyl gennym ni, beth rydym ei angen gennych chithau, a'r rheolau y mae'n rhaid inni eu dilyn wrth gadw a rhyddhau gwybodaeth.


Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (GDPR) a Deddf Diogelu Data'r Deynas Unedig 2018

Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â data personol - sef, gwybodaeth am bobl fyw ac y gellir eu hadnabod.

Os ydych eisiau gweld yr wybodaeth sy'n cael ei dal amdanoch chi'n benodol, dylech wneud cais yn ysgrifenedig, ar lafar, ebost, neu gyfryngau cymdeithasol, ond rydym wedi creu ffurflen ar ech cyfer er mwyn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth angenrheidiol i brosesu'ch cais - cliciwch yma os gwelwch yn dda

Er mwyn gochel rhag torri ar breifatrwydd rhywun arall, mae angen inni ofalu mai chi yw'r sawl rydych yn ei honni cyn inni ddarparu'r wybodaeth. Mae gwahanol reolau'n berthnasol i geisiadau gan weithwyr. Dan yr amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl derbyn yr wybodaeth o fewn mis o dderbyn y cais.

Cewch anfon eich cais yn uniongyrchol i Swyddog Diogelu Data GTAGC yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data
Pencadlys GTAGC
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
LL17 0JJ

Ebost


Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae hon yn ymwneud yn fwy cyffredinol â gwybodaeth sydd gan yr Awdurdod ynghylch pethau nad ydynt yn ymwneud â phersonau. Mae'r Ddeddf yn gwneud gofyniad ein bod yn cadarnhau'n ysgrifenedig a ydym yn dal yr wybodaeth rydych wedi gofyn amdani, a'n bod yn darparu'r wybodaeth o fewn 20 niwrnod gwaith. Yn naturiol, mae sawl eithriad i hyn, yn ymwneud â materion difrifol megis diogelwch

cenedlaethol, diogelwch personol a gorfodi'r gyfraith. Mae eithriadau hefyd yn ymwneud â cheisiadau afresymol neu niferus, neu rai sy'n amlwg yn rhan o ymgyrch.
Dylid gwneud ceisiadau dan y ddeddfwriaeth hon yn ysgrifenedig, gan roi eich enw a'ch cyfeiriad at ddiben gohebu, a disgrifio'r wybodaeth rydych yn gofyn amdani. Os bydd y gost o gydymffurfio â'ch cais yn uwch na £450, sef y trothwy a osodwyd yn genedlaethol, fe allem ni anfon anfoneb am y swm cyn rhyddhau'r wybodaeth ichi.

Dylid anfon ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth at:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JJ
Ebost

neu, fel arall, cwblhewch ac anfonwch y ffurflen gyswllt hon - Ffurflen Gyswllt Ar-lein


Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Nid yw eich cais am wybodaeth amgylcheddol yn gorfod bod yn ysgrifenedig, ond bydd angen inni gael gwybod sut y byddech yn hoffi derbyn yr wybodaeth (er enghraifft, trwy e-bost neu lythyr), ac fe fydd angen inni gael gwybod i ble i anfon yr anfoneb, gan y bydd angen talu ffioedd rhesymol efallai, yn dibynnu ar natur a swmp yr wybodaeth rydych yn gofyn amdani.

Fel arfer, byddwn yn ateb eich cais o fewn 20 niwrnod gwaith, er y gellid ymestyn hyn i 40 niwrnod gwaith dan amgylchiadau penodol.


Am ragor o wybodaeth am eich hawliau ynghylch unrhyw un o'r deddfwriaethau a restrir uchod cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, manylion cyswllt fel a ganlyn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Llinell Gymorth 0303 123 1113 (ar agor rhwng 9 y.b. a 5 y.h, Dydd Llun i Ddydd Gwener)

https://ico.org.uk/

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen