Carbon monocsid
Carbon monocsid
Beth yw'r peryglon?
Dyma briodweddau ffisegol carbon monocsid:
- mae'n ddi-liw, diarogl ac yn ocsid nwyol, niwtral sydd yn hynod wenwynig
- prin ei fod yn doddadwy mewn dŵr, ond mae'n doddadwy mewn ethanol a bensen
- mae ganddo ddwysedd cymharol sy'n debyg i aer
Dyma briodweddau cemegol carbon monocsid:
- mae'n nwy fflamadwy a gwenwynig iawn
- mae'n ocsid niwtral sydd yn llosgi mewn aer ac yn cynhyrchu carbon monocsid
- mae'n rhydwythydd da
Y mae CO (carbon monocsid) yn nwy diwydiannol pwysig sydd yn cael ei ddefnyddio'n gyson fel tanwydd a rhydwythydd yn y diwydiant cemegau.
Beth sy'n achosi Gwenwyn Carbon Monocsid?
Y mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan fydd tanwydd yn llosgi'n anghyflawn. Mae'r rhain yn cynnwys:
- ysmygu tybaco
- petrol segur
- injans sy'n defnyddio disel
- olew
- pren
- glo
- papur
- siarcol
- cerosin/paraffin
- propan
- bwtan
- hyd yn oed losgi tost neu gig!
Gellir canfod pob un o'r rhain mewn amgylchedd domestig/hamdden ac yn y gweithle. Y mae'r tebygolrwydd o wenwyno gan gyfarpar sydd wedi eu gosod a'u hawyru'n iawn ac sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd yn isel iawn.
Fodd bynnag, rydym yn treulio oddeutu 80% o'n hamser mewn mannau caeedig megis y cartref, cerbydau, carafannau, llety gwyliau, swyddfeydd, gweithdai, cychod a hyd yn oed pebyll ac fe all cyfarpar sydd heb gael eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n iawn, neu gyfarpar sy'n cael eu defnyddio'n anghywir, achosi lefelau CO anniogel a all gynyddu eich cyswllt â charbon monocsid yn sylweddol.
Effeithiau
Fel arfer, pan fyddwch yn anadlu, bydd ocsigen yn cael ei amsugno o'r ysgyfaint i'r gwaed lle mae'n cyfuno gyda haemoglobin i greu ocsihaemoglobin, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r organau, meinweoedd a'r cyhyrau. Yn y cyhyrau mae ocsigen yn cael ei drosglwyddo i fyoglobin sydd yn creu ocsimyoglobin.
Fodd bynnag, pan fyddwch yn anadlu carbon monocsid mae'n cymryd lle'r ocsigen ac yn cynhyrchu sylwedd o'r enw carbocsihaemoglobin.
Mae gwenwyno yn digwydd drwy:
Anocsia
Y mae gan haemoglobin affinedd uwch â charbon monocsid nag ocsigen, cymhareb o tua 240:1 a 25:1 ar gyfer myoglobin, ac felly gall crynodiad isel o garbon monocsid gymryd lle nifer uchel o foleciwlau ocsigen yn ein cyrff.
Hypocsia
Ni all yr ocsigen sydd wedi cael ei amsugno gael ei ryddhau o'r gwaed i'r organau a'r meinweoedd oherwydd bod carbon monocsid yn cynyddu affinedd ocsigen yr haemoglobin.
Y mae gan haemoglobin y ffoetws affinedd uwch ac y mae ganddo fwy o affinedd am garbon monocsid na'r fam.
Y mae effeithiau carbon monocsid yn ddibynnol ar faint o gyswllt yr ydych wedi ei gael â'r nwy:
Difrifol
Mae arwyddion a symptomau cyswllt difrifol yn cynnwys cur pen, gwrido, cyfogi, pendro, teimlo'n wan, tymer flin, anymwybodol ac, yn achos pobl sydd yn dioddef o afiechyd y galon a atherosclerosis, poen yn y frest a'r coesau.
Cronig
Mae cyswllt cronig yn llawer anoddach i'w ganfod na chyswllt difrifol oherwydd bod y symptomau'n llai amlwg , a hynny oherwydd mai dim ond cynnydd bychan a welir mewn lefelau carbocsihaemoglobin. Bydd hyn yn digwydd pan fydd pobl wedi bod yn anadlu lefelau isel o'r nwy dros gyfnod o wythnos neu fisoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd. Gall arwain at broblemau iechyd parhaol a hir dymor gydag effeithiau gwanychol i'r dioddefwr.
Cyngor ar ddewis a lleoli larymau carbon monocsid