Lletygarwch - Oes Gennych Chi Westeion Sy'n Talu?
Yn 2009, fe gyflwynodd Cymunedau a Llywodraeth Leol ganllaw i ddarparwyr llety bach. Mae'r llyfryn yn rhoi cyngor ar gydymffurfio gyda'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 i weithredwyr llety gwely a brecwast bychan a safleoedd tebyg. Mae wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân a llawer o randdeiliaid y diwydiant ac yn gymwys i safleoedd tebyg yng Nghymru.
Mae'r llyfryn yn darparu sail i sicrhau gweithgaredd diogelwch tân a gorfodi sy'n briodol at risg o fewn y sector yma o'r diwydiant lletygarwch ac mae'n cael ei gefnogi'n llawn gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae'r llyfryn 'Oes gennych chi westeion sy'n talu?' yn ganlyniad i waith Cymunedau a Llywodraeth Leol, cynrychiolwyr y diwydiant a'r Gwasanaeth Tân ac Achub (drwy Weithgor Gorchymyn Diogelwch Tân Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân) i wella dealltwriaeth o'r Gorchymyn Diogelwch Tân a gofynion cydymffurfio ymysg darparwyr llety bychan, annibynnol. Mae'n gosod nifer o feincnodau diogelwch tân sydd rhai i safleoedd o'r fath ystyried i sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch tân.
Mae wedi ei dargedu'n benodol ar berchnogion ('personau cyfrifol') sefydliadau gwely a brecwast, gwestai bychan, gweithredwyr llety hunanarlwyo a safleoedd bychan eraill sy'n darparu llety i westeion sy'n talu. Mae wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i bryderon y diwydiant am effaith y Gorchymyn Diogelwch Tân ar y mathau yma o fusnesau, gyda'r mwyafrif wedi bod tu allan i sgôp deddfwriaeth diogelwch tân yn flaenorol.
Ymgynghorwyd gyda chynrychiolwyr darparwyr y math yma o lety ar ddatblygiad y llyfryn.
I lawrlwytho fersiwn PDF o'r canllaw yn rhad ac am ddim, cliciwch yma