Cyngor ar losgi dan reolaeth
Cyngor ar losgi dan reolaeth
Lansio fideo newydd - Canllaw i dirfeddianwyr
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i chi ein ffonio ni cyn i chi losgi – rydym hefyd yn annog perchnogion tir i ddilyn rhai gweithdrefnau diogelwch sylfaenol ac i hysbysu’r gwasanaeth tân ac achub cyn y byddant yn mynd ati i losgi.
Mae'r rheolau llosgi grug a glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a rhwng 1 Tachwedd a 15 Mawrth ymhobman arall.
https://llyw.cymru/cod-llosgi-grug-glaswellt
Mae nifer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir ac ni ddylent wneud hyn y tu allan i’r tymor llosgi.
Dywedodd Dave Hughes, Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin: “Bob blwyddyn, byddwn yn cael ein galw i nifer o gamrybuddion a llosgiadau rheoledig sydd wedi mynd tu hwnt i reolaeth.
"Rydym yn annog tirfeddianwyr sy'n llosgi dan reolaeth ar eu tir i roi gwybod i ni drwy ffonio ein hystafell reoli ar 01931 522006. Bydd hyn yn helpu i osgoi galwadau ffug ac anfon criwiau i ddigwyddiadau yn ddiangen, yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb pe byddai'r tân yn mynd tu hwnt i'ch reolaeth.
"Yn ystod tywydd sych gall tanau ledaenu'n gyflym iawn. Mae'r math yma o danau fel arfer yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r gyflenwad ddŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar ein hadnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys gwirioneddol.
Dilynwch y canllawiau isod os ydych yn bwriadu llosgi dan reolaeth:
Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.
Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.
Mae’n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn ei wylio neu chael tân â dim digon o bobl i’w reoli.
Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn gofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth.
Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau."
Cliciwch yma i weld ein fideo am losgi dan reolaeth.
Click here to view our Safe Burning leaflet.
Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, sy'n ymrwymedig i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.
Darllenwch fwy am Ymgyrch Dawns Glaw
Llyfrgell Adnoddau Ymgyrch Dawns Glaw - gyda mynediad i adnoddau cyfryngol wedi'u datblygu i gefnogi'r ymgyrch hon.