Eich Cyfrifoldebau
Eich Cyfrifoldebau
Newidiodd cyfraith diogelwch tân ym mis Hydref 2006 gyda chyflwyniad y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 oedd yn cymryd lle dros 70 darn o gyfraith diogelwch tân. Mae'r gofyniad i fusnesau gael tystysgrifau tân wedi cael ei ddiddymu ac nid ydynt yn ddilys mwyach.
Mae'r Gorchymyn yn gymwys i bob eiddo annomestig yn Lloegr a Chymru, gan gynnwys y rhannau cyffredin o fflatiau a thai amlbreswyliaeth.
Mae'r gyfraith yn gymwys os ydych chi'n:
- Gyfrifol am safleoedd busnes
- Yn gyflogwyr neu'n hunan gyflogedig gyda safle busnes
- Yn gyfrifol am ddarn o adeilad lle mae'r rhan yn cael ei ddefnyddio'n ar gyfer pwrpasau busnes yn unig
- Yn sefydliad elusen neu wirfoddol
- Yn gontractwr gyda chyfradd o reolaeth dros y safle
- Yn darparu llety i westeion sy'n talu
- Meithrinfa ddydd fechan
O dan y Gorchymyn, rhaid i'r 'person cyfrifol' (y cyflogwr, preswylydd neu berchennog) wneud asesiad risg diogelwch tân 'addas a digonol' a gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân. Mae rhagor o wybodaeth ar beth sydd angen i chi wneud wrth wneud asesiad risg ar gael yn yr adran 'Proses Asesu Risg'.
Os, wedi cwblhau asesiad risg diogelwch tân, eich bod angen rhagor o gyngor ymarferol neu wybodaeth, cysylltwch gyda'r Tîm Addysg i Fusnesau.
Efallai byddwch chi'n teimlo'n fwy cyfforddus cyflogi arbenigwr diogelwch tân i'ch helpu. Mae unigolion a chwmnïau sy'n darparu gwasanaethau diogelwch tân wedi eu rhestru mewn cyfeirlyfrau lleol. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran ' Dewis Aseswr Risg'.
Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022: canllawiau