Cadwch yn ddiogel – peidiwch â mentro ar ddŵr sydd wedi rhewi
Mae cerdded ar lynnoedd neu ddyfrffyrdd sydd wedi rhewi yn beryglus iawn - cymrwch bwyll arbennig a pheidiwch â mynd yn agos at ddŵr sydd wedi rhewi.
Er bod llynnoedd a chronfeydd dŵr yn edrych fel mannau delfrydol i sglefrio arnynt pan fyddant wedi rhewi, maent yn beryglus iawn.
Dylai perchnogion cŵn fod yn ofalus ger dŵr sydd wedi rhewi a pheidio â thaflu ffyn neu beli ar y rhew. Pe byddai ci yn mynd i drafferthion ar y rhew peidiwch â cheisio’i achub.
Mae gan y rhan fwyaf o gronfeydd dŵr lethrau ysgafellog cyn cyrraedd y dŵr dwfn ac mae’n hynod bwysig nad ydi pobl yn mentro ar rew heb wybod pa mor ddwfn ydi’r dŵr oddi tanynt ac yn benodol pa mor dew, neu, yn y rhan fwyaf o achosion, pa mor denau ydi’r rhew y maent yn sefyll arno.
Cyngor diogelwch – beth i’w wneud os gwelwch rywun yn syrthio drwy rew
Peidiwch byth â mentro ar byllau neu lynnoedd wedi rhewi, waeth pa mor ddiogel y maent yn edrych.
Os gwelwch rywun yn syrthio drwy’r rhew:
- Gwaeddwch am help a galwch y gwasanaethau brys – ffoniwch 999 neu 112 – mae’n rhad ac am ddim o unrhyw ffôn
- Cadwch oddi ar y rhew
- Gwaeddwch ar y claf a dweud wrtho aros yn llonydd
- Ceisiwch gyrraedd y claf o’r lan gyda rhaff, bolyn, cangen coeden, dillad wedi eu clymu gyda'i gilydd neu unrhyw beth arall sydd wrth law
- Wrth geisio cyrraedd y claf o’r lan, gorweddwch i lawr rhag ofn i chi cael eich tynnu ar y rhew
- Os na allwch gyrraedd y claf o’r lan, llithrwch rywbeth sydd yn gallu arnofio ato megis bwi achub i helpu i’w gadw uwch ben y dŵr
- Os nad oes modd cyrraedd y claf o gwbl, arhoswch am y gwasanaethau brys a cheisiwch dawelu meddwl a chysuro’r claf
Ar ôl achub y claf o’r dŵr:
- Gwnewch yn siŵr bod ambiwlans ar y ffordd
- Gorweddwch y claf yn fflat ac edrych i weld a ydi o’n anadlu a chwilio am bwls. Dechreuwch adfywio’r claf os oes angen
- Ceisiwch atal y claf rhag mynd yn oerach drwy ei roi mewn sach gysgu neu ei orchuddio, gyda blancedi neu ddillad sbâr, gan gynnwys y pen.
- Ewch â’r claf i fan cysgodol allan o’r oerfel
- Peidiwch â thynnu dillad y claf tan y byddwch mewn man cynnes
- Peidiwch â rhwbio’r croen, rhoi dŵr poeth ar y corff na rhoi diod alcoholig i’r claf
- Cadwch y claf wedi ei lapio er mwyn iddo gynhesu’n raddol
Os gwnewch chi syrthio drwy rew:
- Peidiwch â chynhyrfu a galwch am help
- Os nad oes help ar gael lledaenwch ei breichiau ar hyd arwynebedd y rhew
- Os ydi’r rhew yn ddigon cryf ciciwch eich coesau a llithrwch ar y rhew
- Gorweddwch yn fflat a thynnu’ch hun i’r lan
- Os ydi’r rhew yn denau iawn, torrwch ef o’ch blaen a mynd at y lan
- Os na allwch ddringo allan, arhoswch am help a chadwch mor llonydd â phosibl
- Rhowch eich breichiau wrth eich ochr a chadwch eich coesau gyda’ch gilydd
- Unwaith yr ydych yn ddiogel, ewch i’r ysbyty ar unwaith am archwiliad