Diogelu Tân Gwybodaeth am Berfformiad
Diogelu Tân Gwybodaeth am Berfformiad
Un o gonglfeini gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub yw'r maes Diogelwch Rhag Tân. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gefnogi cydymffurfiaeth gyda Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 fel bod adeiladau annomestig y mae pobl yn gweithio, ymweld â hwy a mwynhau eu hamser hamdden ynddynt yn darparu cyfleusterau sydd yn sicrhau y gall pobl fynd allan o'r adeilad yn ddiogel mewn achos o dân. Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys ymweliadau addysgol, cyfeirio at ganllawiau perthnasol a gwirio neu archwilio mesurau diogelwch tân.
Datganiad cenhadaeth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yw 'Gwneud Gogledd Cymru yn ardal fwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi'. Rydym ni wedi ymrwymo i reoliadau gwell, doethach sydd yn hybu twf busnesau ac , os nad ydy'r busnesau hynny'n cydymffurfio, rydym yn cynnig cefnogaeth a chyfle i drafod y canllawiau, gofynion a'r penderfyniadau er mwyn eu galluogi i gydymffurfio gyda Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae'r dull gweithredu hwn yn unol ag egwyddorion C od y Rheolyddion 2014
Mae oddeutu 28,000 eiddo annomestig yng Ngogledd Cymru ac mae ein gweithgareddau Diogelwch Tân i Fusnesau wedi eu hanelu at safleoedd sydd mewn mwy o berygl o achosi marwolaethau neu anafiadau o ganlyniad i dân yn ein barn ni.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi golwg gyffredinol ar gost ein gweithgareddau diogelu rhag tân ynghyd â chanlyniadau'r gwaith hwn. Mae'r Wybodaeth am Berfformiad wedi ei rannu'n chwe chategori hawdd i'w ddarllen. Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth
Mae'r diffiniadau a'r dulliau cyfrifo sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen hon er gwybodaeth yn weddol gyson gydag argymhellion Cylchlythyr Cymdeithas y Diffoddwyr Tân 2013-37 Canlyniadau ac effeithiau gweithgareddau diogelu rhag tân yn y gymuned http://www.cfoa.org.uk/10041.
Cliciwch yma i weld y daflen wybodaeth