Diogelwch blancedi trydan
Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer defnyddio eich planced bob amser. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddefnyddio a storio eich planced yn ddiogel ac yn golygu y bydd eich planced yn para yn hirach. Storiwch y flanced yn fflat neu wedi rowlio a pheidiwch â gadael unrhyw beth ar ben y flanced.
- Dylid cael Blancedi Trydan newydd bob 10 mlynedd, a threfnu i drydanwr cymwys eu profi bob 2 flynedd.
- Gwiriwch eich planced am farciau llosgi, difrod dŵr, llwydni neu wifrau agored. Os byddwch yn gweld unrhyw un o’r rhain ar eich planced, peidiwch â’i defnyddio, prynwch un newydd.
- Peidiwch byth â defnyddio potel dŵr poeth nac yfed hylifau yn y gwely pan fydd eich planced drydan wedi’i gosod. Os byddwch yn colli eich diod neu os yw’r botel dŵr poeth yn gollwng byddwch yn cymysgu dŵr a thrydan.
- Peidiwch â phlygu plancedi trydan.
- Amddiffynnwch y gwifrau tu mewn iddynt drwy eu storio yn fflat neu wedi eu rowlio.
- Peidiwch â gadael planced drydanol ymlaen drwy’r nos.
- Fe ddylai plancedi trydan arddangos symbol Nodyn Barcud Prydain a’r symbol BEAB arnynt.
Arwyddion o berygl – beth i edrych allan amdano
Plygiau neu socedi sy’n boeth pan fyddwch yn eu cyffwrdd
Plygiau neu socedi â marciau llosgi arnynt
Ffiwsys sy’n chwythu am ddim rheswm
Goleuadau sy’n fflachio
Peidiwch â chymryd siawns gyda thrydan. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â thrydanwr cymwys ar unwaith.