Pwy ydym ni
Pwy ydym ni
"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn helpu i ddiogelu poblogaeth o oddeutu 678,461 o bobl dros ardal o 2,400 milltir sgwâr, yn ogystal â channoedd o filoedd o dwristiaid ac ymwelwyr sy'n dod i'r ardal bob blwyddyn.
Rydym yn gyfrifol am ddiogelu tua 317,051 o eiddo domestig a 24,484 o eiddo annomestig yng Ngogledd Cymru.
Mae'r Gwasanaeth yn cyflogi oddeutu 900 o staff mewn rolau gweithredol a chefnogi.
Bob blwyddyn rydym yn mynychu tua 3,200 o danau, 500 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a 500 o digwyddiadau brys eraill.
Rydym hefyd yn mynychu tua 3,600 o alwadau diangen o wahanol fathau bob blwyddyn.
Rydym yn gwneud llawer o waith gydag ysgolion, busnesau a chymunedau lleol er mwyn hyrwyddo diogelwch tân ac atal tanau.
Mae gan y Gwasanaeth fflyd nifer o gerbydau sy'n gynnwys 54 o beiriannau tân, uned rheoli un digwyddiad a 31 o gerbydau 'arbennig', megis cerbydau pob tir a chludwyr ewyn.
Mae gennym hefyd dri platfform ysgolion awyr, offer trydanol cludadwy, offer codi a winsio ac offer arbenigol arall er mwyn ein galluogi i ymateb i nifer o wahanol fathau o ddigwyddiadau.
Rhain yw ein Gwerthoedd Craidd
Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub,
Ffordd Salesbury, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy Sir Ddinbych, LL17 0JJ
Ffôn: 01745 535 250