Recriwtio a Swyddi Gwag
Croeso i'r adran recriwtio a swyddi gwag.
Yma cewch fanylion am y gwahanol gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ar draws ystod eang o feysydd.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob sector o'r gymuned. Croesawir ceisiadau gan bobl beth bynnag eu hoedran, anabledd, hil, rhyw, crefydd neu dueddiadau rhywiol.
Cewch hefyd fanylion am ein swyddi gwag cyfredol, ffurflenni cais a gwybodaeth bellach am weithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn derbyn CVs mewn ceisiadau am swyddi gwag neu swyddi gwag posibl.
We do not accept CVs for current or potential vacancies. Any applications submitted for current vacancies using a formal application form or our online recruitment portal will be processed in accordance with our standard recruitment procedures.
Caiff unrhyw gais a wneir mewn perthynas â swyddi gwag presennol, gan ddefnyddio ffurflen gais ffurfiol neu ein porth recriwtio arlein, ei drin yn unol â’r trefniadau safonol. Wrth wneud cais am swydd wag bresennol, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth bersonol. I gael gwybod sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu'r wybodaeth hon, cyfeiriwch at ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol.
-
Swyddi gwag -
Pam gweithio i ni? -
Diffoddwyr Tân Ar-Alwad -
Diffoddwyr Tân Llawn Amser -
Gwasanaethau Corfforaethol -
Gweithredwyr Yr Ystafell Reoli -
Prentisiaethau








