Dewis Aseswr Risg
'Mae'n rhaid i'r person cyfrifol wneud asesiad addas a digonol o'r risgiau y mae personau perthnasol yn agored iddynt, a hynny i ddiben adnabod y rhagofalon tân cyffredinol.....[Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 - Erthygl 9(1)].
Dan y Gorchymyn Diogelwch Tân mae'n rhaid i'r Person Cyfrifol gwblhau asesiad diogelwch tân. Efallai, mewn safle bychan syml, y byddant yn hapus i gwblhau'r asesiad eu hunain ynghyd ag arweiniad gan Lywodraeth Cymru.
Fodd bynnag mewn gweithleoedd cymhleth efallai na fydd gan y Person Cyfrifol y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r dasg o gwblhau asesiad risgiau tân. Gall y Person Cyfrifol ofyn am help gan berson cymwys - 'ystyrir bod rhywun yn gymwys i ddiben yr erthygl hon os ydynt wedi derbyn hyfforddiant ddigonol a'u bod yn meddu ar brofiad neu wybodaeth a nodweddion eraill i'w alluogi i gynorthwyo gyda'r broses o ymgymryd â mesurau ataliol ac [Y Gorchymyn Diogelwch Tân- Erthygl 18 (5)].
Efallai y ceir y cymorth hwn gan rywun o fewn y busnes neu gan gontractwr allanol. O dan y gyfraith y Person Cyfrifol sydd yn gyfrifol, ac felly mae'n bwysig eu hod yn hyderus eu bod yn derbyn cymorth gan berson CYMWYS.
Mae'n rhaid i'r Person Cyfrifol feddu ar y wybodaeth, sgiliau a'r ymarweddiad i wella perfformiad, Mewn perthynas â'r Asesiad Risgiau Tân dylai fod ganddynt:
Os byddwch angen help i gynhyrchu Asesiad Risgiau Tân dylech ddewis person addas. Dylai'r asesydd diogelwch tân fod yn addas ar gyfer eich sefyllfa gyda gwybodaeth, sgiliau ac ymagwedd amrywiol i'w galluogi i gwblhau Asesiad Risgiau Tân addas ar gyfer cymhlethdod eich safle a'r peryglon a'r risgiau dichonadwy.
Y meysydd gwybodaeth/sgiliau sydd angen eu cynnwys er mwyn cynhyrchu Asesiad Risgiau Tân ystyrlon yw:
- Adnabod y peryglon tân
- Yr asesiad risg rhag tân
- Ymddygiad y tân yn y safle
- Y Ddeddfwriaeth berthnasol
- Arweiniad Briodol gan y Llywodraeth a meincnodau
- Effaith y tân ar bobl ac ymddygiad pobl mewn achos o dân
- Dulliau dianc
- Atal tân
- Amddiffyn rhag tân, dulliau goddefol a gweithredol
- Rheoli diogelwch tân
- Y broses o gwblhau asesiad risg a'r gwaith papur cysylltiedig.
Felly os ydych yn hyderus o safbwynt cwblhau popeth ar wahân i'r broses o asesu'r risgiau, peth doeth fyddai cael cymorth i gwblhau'r rhan yna, nid oes yn rhaid i'r sawl sy'n cynnig cymorth gael gwybodaeth yn y meysydd eraill, ond efallai y byddwch yn hyderus o safbwynt y risgiau sydd yn berthnasol i'ch safle ac felly'n gofyn am help gan rywun sydd gan y wybodaeth a phrofiad yn y meysydd eraill.
Oherwydd y lefelau amrywiol o brofiad sydd ei angen ar gyfer gwahanol safleoedd, mae'n anodd diffinio beth yn union yw'r addysg, wybodaeth a phrofiad sydd yn angenrheidiol i'r sawl fydd yn asesu'r risgiau mewn gwahanol sefyllfaoedd, Mae'r diffyg eglurder felly'n ei gwneud yn anodd i lunio strategaeth cydlynol mewn perthynas â sefydlu safonau cymhwysedd cenedlaethol yn y maes asesu risgiau. Mae Cyngor Cymhwysedd yr Asesiad Risgiau Tân, sef grŵp agored a gwirfoddol sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau'r diwydiant tân, wedi cyhoeddi dwy ddogfen 'Competency Criteria for Fire Risk Assessors' ac 'A Guide to choosing a Competent Fire Risk Assessor'. Y gobaith yw y bydd y dogfennau hyn yn sail i feini prawf cenedlaethol ac yn ffordd o sefydlu prawf o gymhwysedd annibynnol.
Wrth ddewis cymorth gallwch ddod o hyd i gwmnïau mewn cyfeirlyfrau lleol. Mae cwmnïau sydd yn perthyn i gynlluniau cofrestredig ar wefannau megis Sefydliad y Peirianwyr Tân, Sefydliad y Rheolwyr Diogelwch Tân, Warrington Fire a Cymeradwyaeth Brydeinig o Offer Diffodd Tân (BAFE) (Cynllun SP205) neu gofynnwch wrth eich cwmni yswiriant, neu gan rywun dibynadwy, os allan nhw argymell rhywun. Efallai na fydd hyn yn ddigon ac y dylech:
- ofyn am dystlythyrau
- edrych yn fanwl ar y curriculum vitae
- edrych ar enghreifftiau o'u gwaith, gan archwilio fformat a pro forma yr Asesiad Risgiau Tân
- tystiolaeth o Sicrwydd Ansawdd ( e.e. Safon Brydeinig EN ISO 9001)
- edrych am wiriad 3ydd parti ar gyfer y cwmni a/neu'r asesydd risg
Fel gydag unrhyw wasanaeth arall, dylech gymharu prisiau gan wahanol gwmnïau ar gyfer y cymorth yr ydych ei angen. Maen prawf pwysig arall yw bod y person cymwys yn ymwybodol o'i lefel a'i gymhwysedd.
Nod Adran Addysg i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw ymgysylltu â'r gymuned fusnes, busnesau bychan a chanolig yn benodol, i ddarparu cyngor ac arweiniad ar sut i fodloni gofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân.