Cysylltiad i Ganllawiau Llywodraeth Cymru
Y Broses Asesu Risgiau - Canllawiau Llywodraeth Ei Mawrhydi
Er mwyn cynorthwyo busnesau i ddeall y gofynion cyfreithiol sydd arnynt, sut i gynnal asesiad risgiau diogelwch tân, a sut i wybod pa ragofalon y mae'n raid eu cael ar eich safle, mae'r Llywodraeth wedi creu cyfres o ganllawiau wedi eu hanelu at fathau penodol o fusnesau.
Cynlluniwyd y canllawiau fel y dylai person cyfrifol, heb fawr o hyfforddiant ffurfiol na phrofiad, allu cynnal asesiad risgiau tân, a gwybod pa ragofalon neu drefniadau ychwanegol i atal tân sydd angen eu cael, os o gwbl.
Mae'n debygol bod angen i safleoedd mwy cymhleth gael eu hasesu gan rywun sydd â hyfforddiant neu brofiad cynhwysfawr ym maes asesu risgiau tân.
Os byddwch yn penderfynu, ar ôl darllen y canllawiau, nad ydych yn gallu dilyn yr arweiniad, dylech gael cyngor arbenigol. Gall Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eich cynorthwyo, ond ni fydd yn gallu cynnal yr asesiad risgiau ar eich rhan.
Yn ogystal â'r prif gyfres o ganllawiau, crewyd canllaw ychwanegol ar Ddulliau Dianc i Bobl Anabl. Dylid darllen y canllaw hwn ochr yn ochr â'r canllaw perthnasol sy'n ymwneud â'ch safle chi.
Isod, ceir crynodeb o'r canllawiau sydd ar gael, a sut i'w defnyddio:-
Swyddfeydd a siopau
Swyddfeydd a safleoedd manwerthu (gan gynnwys unedau unigol o fewn safleoedd mwy, e.e. canolfannau siopa)
Ffatrïoedd a warysau
Ffatrïoedd a warysau safleoedd storio.
Mannau cysgu
Pob safle sy'n darparu man cysgu fel y prif ddefnydd, e.e. gwestai, gwestai bychain, gwely a brecwast, canolfannau hyfforddi preswyl, llety gwyliau, ac ardaloedd cyffredin fflatiau, maisonettes, tai amlfeddiannaeth a thai gwarchod (ac eithrio'r rhai sy'n darparu gofal - gweler Safleoedd gofal preswyl), ac eithrio ysbytai, safleoedd gofal preswyl, dalfeydd a chartrefi preifat unigol.
Safleoedd gofal preswyl
Cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio, ardaloedd cyffredin tai gwarchod (lle darperir gofal) a safleoedd tebyg, lle mae staff parhaol yno, gyda darparu gofal, yn hytrach na gofal iechyd, fel y prif ddefnydd (gweler Safleoedd gofal iechyd).
Safleoedd addysgol
Yn amrywio o safleoedd cyn-ysgol i brifysgolion, ac eithrio'r rhannau preswyl (gweler Mannau cysgu).
Mannau ymgynnull bach a chanolig
Tafarnau llai, clybiau, bwytai a chaffis, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, marquees, eglwysi, ac addoldai a mannau astudio eraill sydd â lle i hyd at 300 o bobl.
Mannau ymgynnull mwy
Lle gallai 300 neu ragor o bobl ymgynnull, e.e. canolfannau siopa (nid y siopau unigol eu hunain), clybiau nos a thafarnau mwy, canolfannau arddangos a chynadledda, stadiymau chwaraeon, marquees, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, eglwysi, cadeirlannau, ac addoldai a mannau astudio eraill.
Theatrau, sinemâu a lleoliadau tebyg
Neuaddau cyngerdd a safleoedd tebyg a ddefnyddir i'r pwrpas hwnnw yn bennaf.
Digwyddiadau a lleoliadau awyr agored
Er enghraifft parciau thema, parciau sŵ, cyngherddau cerddorol, digwyddiadau chwaraeon (ac eithrio stadiymau - gweler Mannau ymgynnull mwy), ffeiriau a sioeau.
Safleoedd gofal iechyd
(gan gynnwys preifat) fel y prif ddefnydd, e.e. ysbytai, meddygfeydd, deintyddfeydd a safleoedd gofal iechyd tebyg.
Safleoedd a chyfleusterau trafnidiaeth
Terfynfeydd a chyfnewidfeydd cludiant, e.e. meysydd awyr, gorsafoedd trenau (gan gynnwys dan ddaear), twnelau trafnidiaeth, porthladdoedd, gorsafoedd bysiau a choetsys a safleoedd tebyg, ac eithrio'r dulliau cludiant eu hunain (e.e. trenau, bysiau, awyrennau a llongau).
Mae'r canllawiau uchod ar gael i'w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth, yma.
Neu gallwch gael copïau caled gan Lyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO)