Polisi Cwynion
Mae pob cwyn yn gyfle i unrhyw berson sy'n defnyddio neu sy'n derbyn gwasanaethau GTAGC i gywiro pethau. Mae ein gweithdrefn gwyno ar waith i sicrhau gwelliannau parhaus ar draws y Gwasanaeth. Rydym yn ymdrechu'n gyson i wella hyder a boddhad y cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i ymchwilio i bob cwyn ac rydych yn sicr o'r cyfle i fynd â'r mater ymhellach os nad ydych yn fodlon â'n hymateb cychwynnol.
Beth yw cwyn?
Diffinnir cwyn fel mynegiant o anfodlonrwydd gan un neu fwy o bartïon mewn perthynas ag un neu fwy o'r canlynol:
- gweithred neu ddiffyg gweithredu GTAGC;
- safon y gwasanaeth a ddarperir gan GTAGC;
- unrhyw berson neu gorff sy'n gweithredu ar ran GTAGC.
Sut i wneud cwyn
Bydd GTAGC yn delio â chwynion a dderbynnir trwy unrhyw gyfrwng, a byddant yn cael eu trin gyda blaenoriaeth gyfartal.
Byddwch yn gwybod bod y Tîm Cwynion yn monitro cwynion o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa yn unig (ac eithrio gwyliau cyhoeddus a chyfnodau cau tymhorol).
- Mewn person
- Dros y ffôn –. Ar gyfer materion brys nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 01931 522006. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
- Drwy lythyr – Y Tîm Cwynion, Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Ffordd Salesbury, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JJ
- Drwy e-bost – complaints@northwalesfire.llyw.cymru
Esgoli ymhellach
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
- drwy'r post - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Caerdydd
CF35 5LJ - dros y ffôn - 0300 790 0203
- drwy e-bost neu drwy'r wefan - ask@ombudsman.wales www.ombudsman.wales
Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg
Os oes gennych gŵyn yn ymwneud â'n cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio ein gweithdrefn Polisi Cwynion, fel y nodwyd uchod, i ddatrys y mater, fel arall mae gennych hefyd yr hawl i gyfeirio unrhyw gwynion yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg a byddwn yn ymateb yn eich dewis iaith. Bydd cyfrinachedd yn cael ei gadw bob amser.

