Lleihau llosgi bwriadol
Lleihau llosgi bwriadol
Y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol
Prif nod y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yw help i fynd i'r afael â'r broblem o gynnau tanau bwriadol er mwyn diogelu'r cyhoedd, busnesau, yr amgylchedd a threftadaeth yr ardal.
Atal tanau bwriadol drwy gynllunio i: weithio'n agos gyda phartneriaid i greu cymunedau cadarnach; addysgu plant a phobl ifanc; ymyrryd yn gynnar mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol; darparu gweithgareddau i ddargyfeirio pobl ifanc a'u hatal rhag aildroseddu; darparu rhaglenni ymyrraeth.
Ymateb i danau bwriadol drwy gadw llygad ar systemau cofnodi digwyddiadau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, a sicrhau ymateb addas. Gweithio gydag asiantaethau eraill perthnasol er mwyn erlyn troseddwyr neu ymyrryd.
Cliciwch yma i ddarllen Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru
Rhifau cyswllt
Y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol - 0300 123 6698 neu e-bost
Ystafell Reoli'r Gwasanaeth Tân ac Achub, i roi gwybod os ydych am losgi dan reolaeth 01931 522 006
Taclo'r Taclau (Crimestoppers)- 0800 555 111
I roi gwybod am eiddo gwag neu gerbydau sydd wed icael eu gadael Cysylltwch â'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol.
Os hoffech roi gwybod am dipio anghyfreithlon, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru ar Rhadffôn 0800 807 060.