Ewch allan, Arhoswch allan, Ffoniwch 999
Ewch allan, Arhoswch allan, Ffoniwch 999
Beth i'w wneud os oes tân yn eich cartref.
1. Ewch allan
Rhowch wybod i bawb yn y tŷ am y tân, gwaeddwch a dewch â phawb at ei gilydd. Dilynwch eich llwybr dianc cyn gynted ag y gallwch a pheidiwch â mynd ag unrhyw beth gyda chi, gan gynnwys pethau gwerthfawr neu anifeiliaid anwes.
Os gallwch, caewch ddrysau y tu ôl i chi. Bydd hyn yn lleihau lledaeniad y tân
Cyn i chi agor unrhyw ddrysau, teimlwch nhw gyda chefn eich llaw; os ydyn nhw'n gynnes, peidiwch â'u hagor. Mae'r tân yn debygol o fod ar yr ochr arall
Os oes grŵp ohonoch chi, arhoswch gyda'ch gilydd os gallwch.
2. Arhoswch allan
Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad.
Dewch o hyd i rywle diogel i aros.
Os oes rhywun yn dal y tu mewn, arhoswch i'r gwasanaeth tân ac achub gyrraedd. Gallwch ddweud wrthynt am y person a byddant yn gallu dod o hyd iddyn nhw'n gyflymach na chi.
Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad, gan y byddwch chi'n rhoi eich bywyd eich hun mewn perygl, yn ogystal ag arafu ymdrechion y diffoddwyr tân i achub unrhyw un arall sydd ar goll.
3. Ffoniwch 999 ar gyfer y gwasanaeth tân
Ceisiwch beidio â chynhyrfu a rhowch yr union gyfeiriad i weithredwr yr ystafell reoli. Os oes gennych yr ap what3words, bydd hyn yn eu helpu i nodi eich union leoliad.