Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ewch allan, Arhoswch allan a Ffoniwch 999

Ewch allan, Arhoswch allan a Ffoniwch 999

Beth i'w wneud os oes tân yn eich cartref

1. Ewch allan

  • Rhowch wybod i bawb yn y tŷ am y tân - gwaeddwch a dewch â phawb at ei gilydd.
  • Dilynwch eich llwybr dianc cyn gynted ag y gallwch a pheidiwch â mynd ag unrhyw beth gyda chi - gan gynnwys pethau gwerthfawr neu anifeiliaid anwes.
  • Os gallwch, caewch ddrysau y tu ôl i chi - bydd hyn yn lleihau lledaeniad y tân
  • Cyn i chi agor unrhyw ddrysau, teimlwch nhw gyda chefn eich llaw; os ydyn nhw'n gynnes, peidiwch â'u hagor. Mae'r tân yn debygol o fod ar yr ochr arall
  • Os oes grŵp ohonoch chi, arhoswch gyda'ch gilydd os gallwch

2. Arhoswch allan

  • Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad
  • Dewch o hyd i rywle diogel i aros
  • Os oes rhywun yn dal y tu mewn, arhoswch i'r gwasanaeth tân ac achub gyrraedd. Gallwch ddweud wrthynt am y person a byddant yn gallu dod o hyd iddyn nhw'n gyflymach na chi
  • Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad, gan y byddwch chi'n rhoi eich bywyd eich hun mewn perygl, yn ogystal ag arafu ymdrechion y diffoddwyr tân i achub unrhyw un arall sydd ar goll

 

3. Ffoniwch 999 ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub

  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu a rhowch yr union gyfeiriad i weithredwr yr ystafell reoli
  • Os oes gennych yr ap what3words, bydd hyn yn eu helpu i nodi eich union leoliad
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen