Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Ydych chi eisiau helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned leol?

Allech chi ymateb i'n galwad?

Mae eich gorsaf dân leol eich angen chi!

Mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn dod o bob cefndir – yn aml, mae ganddynt swydd neu ddiddordebau eraill.

Mae’r rôl yn gallu bod yn heriol ac yn anodd ei rhagweld, ond yn bennaf oll, mae'n rhoi boddhad mawr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru angen pobl yn union fel chi i helpu i ddiogelu eich cymuned leol.

Ydych chi eisiau ymuno â’n tîm?

Gallwch gofrestru eich diddordeb ar-lein nawr yma.

Fe’ch gwahoddir i gofrestru eich diddordeb yn y broses recriwtio ar gyfer unrhyw un o’n 44 gorsaf dân nawr, ac unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y Gwasanaeth yn cadw mewn cysylltiad â chi ac y rhoi diweddiaradau rheolaidd i chi ar y broses o recriwtio Diffoddwyr Tân Rhan Amser.

 

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen