Prentisiaethau
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyfres o Raglenni Prentisiaeth sydd ar agor i bobl sydd gan ddiddordeb mewn dod yn aelodau o’r gwasanaeth tân ac achub yn y dyfodol.
Bydd cyfleoedd prentisiaeth yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer hysbysiadau swyddi yma.
Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gwneud mwy na diffodd tanau– rydym yn cynnig dewis eang o raglenni prentisiaeth achrededig dros gyfnodau gwahanol mewn adrannau amrywiol.
Mae’r prentisiaid yma’n dysgu sut i chwarae rhan hanfodol yn y dasg o amddiffyn ein cymunedau, darparu cefnogaeth gan gynnwys ymateb ac amddiffyn, darparu rhaglenni diogelwch cymunedol, sicrhau fod busnesau yn dilyn rheolau diogelwch tân, helpu hybu ymgyrch diogelwch tân, yn ogystal â sicrhau bod cerbydau’r gwasanaeth tân ac achub yn cael eu cynnal a’u cadw’n gywir.
Mae’r hyfforddiant yn meithrin sgiliau ymarferol a theori sydd yn galluogi i’r prentisiaid chwarae rôl hanfodol gyda ni. Maent yn cael eu hyfforddi a’u mentora yn barhaus ac maent hefyd yn cael eu hasesu’n rheolaidd.
Mae’r rhaglenni’n rhan bwysig o weledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i wynebu heriau a chwilio am ffyrdd o addasu i gyd-fynd â’r newidiadau sy’n digwydd o’n cwmpas.
Mae prentisiaethau modern wedi'u halinio â blaenoriaethau Sgiliau Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch o allu cynnig y gefnogaeth hon i bob unigolyn 16 oed a hŷn.

