Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwrdd â’r tîm

Andrew

Gwireddu bleuddwyd plentyn.

Cafodd Andrew y cyfle i wireddu ei freuddwyd o wasanaethu'r gymuned gan ddod yn Ddiffoddwr Tân, dyma fo'n rhannu ei stori o fod yn y "swydd orau yn y byd".

Michaela

Gweithio gyda phobl wych mewn rôl amrywiol.

Gwyliwch stori Diffoddwr Tân o Gaergybi Michaela i glywed pam mae hi'n caru gweithio fel tîm gyda phobl wych o'i chwmpas.

Mae hi'n dweud wrthym mai cymryd y cam cyntaf i ddarganfod mwy am yrfa fel diffoddwr tân oedd y penderfyniad gorau iddi erioed wneud.

Rebecca

Mae pob dydd yn wahanol ac yn dod â heriau Newydd.

Dyna'n union mae Diffoddwr Tân o Lannau Dyfrdwy Rebecca yn ei charu am fod yn Ddiffoddwr Tân.

Mae bod yn Ddiffoddwr Tân yn dod â heriau gwahanol a profiadau amrywiol bob dydd, ac rwyt wastad yn dysgu, addasu a gwneud gwahaniaeth.

Tessa

O athrawes ysgol gynradd i Ddiffoddwr Tân.

Mae Tessa yn Ddiffoddwr Tân llawn amser ym Mangor. Mae hi wrth ei bodd yn helpu ei chymuned ac yn cael boddhad go iawn o’i rôl bob dydd.

Gwyliwch stori Tessa i glywed sut y gwnaeth hi drosglwyddo i'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Tina

Darganfyddwch yrfa lle nad oes unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un fath.

Dyna un o'r pethau y mae Tina yn ei garu fwyaf am fod yn ddiffoddwr tân llawn amser newydd ei recriwtio yn y Rhyl.

Gwyliwch stori Tina i ddysgu mwy am ei thaith gyda'r Gwasanaeth a sut beth yw bywyd fel diffoddwr tân go iawn.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen