Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Cyfle Cyfartal
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymroi i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth gyflwyno gwasanaeth ar draws y sefydliad cyfan. Polisi'r Gwasanaeth yw sicrhau bod holl ddefnyddwyr y gwasanaeth, ymgeiswyr am swyddi a gweithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn ofalus. Sylweddolwn y gall pobl ddioddef anfantais a gwahaniaethu am sawl rheswm, ac rydym yn cefnogi darpariaethau'r ddeddf bresennol yn llawn er mwyn cael gwared â'r rhwystrau hyn.
Ein nod yw datblygu polisïau ac arferion da er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth yn gweithredu'r prosesau gwrth wahaniaethu'n effeithiol. Ein nod yw mynd i'r afael â gwahaniaethu drwy gyfrwng rhaglen gadarnhaol o fesurau ym meysydd:
- darparu gwasanaethau
- prynu gwasanaethau
- cyflogi staff
- gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill.
Mae uwch reolwyr y Gwasanaeth wedi ymroi i arwain y broses hon, nid oherwydd goblygiadau cyfreithiol yn unig, ond hefyd oherwydd bod gwneud hynny'n ein helpu i gyflawni ein targedau gweithredol a'n targedau busnes yn ogystal ag arddangos rôl y Gwasanaeth yn hyrwyddo cydlyniad y gymuned o fewn y rhanbarth.