Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth rydyn ni'n ei wneud

Beth rydyn ni'n ei wneud

 Ymateb brys

Rydym yn ymateb i argyfyngau ledled Gogledd Cymru wrth achub bywydau a diogelu cartrefi, busnesau a chymunedau.

Bob blwyddyn rydym yn mynychu tua 3,200 o danau, 500 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a 500 o ddigwyddiadau brys eraill.

Mae ein diffoddwyr tân yn ymateb o 44 o orsafoedd tân ledled Gogledd Cymru. Yn gyfan gwbl mae gennym 53 o beiriannau tân. Mae gan rai gorsafoedd ddwy injan dân, tra bod gan eraill gerbydau arbenigol yn dibynnu ar risg leol.


Atal

Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau i helpu i atal argyfyngau. Mae hyn yn cynnwys:


•    Cynnal Archwiliadau Diogel ac Iach ar gyfer pobl a allai fod yn fwy sy'n agored i niwed
•    Gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc
•    Ymgyrchoedd a phartneriaethau diogelwch cymunedol


Diogelu

Rydym yn helpu busnesau i gadw'n ddiogel a chydymffurfio â deddfau diogelwch tân. Mae ein timau yn:

  • cynnal arolygiadau diogelwch tân.
  • darparu cyngor ac arweiniad.
  • gweithio gyda phartneriaid i leihau'r risg mewn adeiladau risg uchel.

Y Ganolfan Rheoli

Pan fydd unrhyw un yng Ngogledd Cymru yn ffonio 999 / 112 ac yn gofyn am y 
gwasanaeth tân ac achub, byddant yn cael eu rhoi drwodd i staff rheoli yn y Ganolfan 
Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy. . Mae'r staff yn:

  • delio â galwadau brys.
  • anfon ein 
    diffoddwyr tân allan ar unwaith ledled 
    Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw offer 
    arbenigol sydd eu hangen
  • darparu cyngor sy'n achub bywydau i alwyr.

Mae'r cyfleuster hwn yn cael ei rannu â Heddlu Gogledd Cymru ac yn helpu i wella cydlynu wrth ymateb i argyfyngau.


Ein staff corfforaethol

Mae’r timau canlynol yn hanfodol i sicrhau bod gan ein diffoddwyr tân y gallu i ymateb i argyfyngau a chyflawni ein mentrau diogelwch cymunedol, yn ogystal â sicrhau bod y Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y gyllideb, ac yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol a’i gyfrifoldebau adrodd statudol:

  • Adnoddau Dynol a Chymorth Busnes – Rheoli recriwtio, sefydlu a llesiant; cyngor ar gysylltiadau gweithwyr, disgyblaeth, cwynion, gwerthuso swyddi a chydymffurfiaeth gyfreithiol.
  • Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad a Thrawsnewid – Cynlluniau statudol, perfformiad ac adroddiadau; goruchwylio parhad busnes, risg strategol a phrosiectau trawsnewid.
  • Hyfforddiant a Datblygu – Hyfforddiant sgiliau critigol; achredu cymwysterau a datblygiad proffesiynol, gan gynnwys iechyd, ffitrwydd ac arweinyddiaeth.
  • Cyfathrebu Corfforaethol – Sicrhau bod negeseuon yn cael eu deall; cynnal enw da a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu – Diogelu seilwaith TGCh a chefnogi defnydd effeithiol o offer digidol.
  • Cyllid a Chaffael – Taliadau staff a chyflenwyr, rheoli storfeydd, prynu a chynhyrchu gwybodaeth statudol.
  • Fflyd a Pheirianneg – Dylunio, cynnal ac atgyweirio cerbydau ac offer; gwasanaeth galw allan 24/7.
  • Gweithrediadau Technegol – Sicrhau iechyd a diogelwch trwy bolisïau gweithredol a safonau cenedlaethol.

Ein llywodraethiant

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei oruchwylio gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n cynnwys cynghorwyr etholedig o bob rhan o'r rhanbarth.

Mae'r Gwasanaeth yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Tân ac uwch dîm arweinyddiaeth sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gweithredol a chorfforaethol.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen