Diwali
Yn ystod Diwali, Gŵyl y Goleuni, hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru atgoffa cymunedau Sikh, Hindŵ a Jain sy’n dathlu’r ŵyl, i wneud hynny’n ddiogel.
Er bod y syniad tu cefn i Diwali a’r modd y dethlir hi’n amrywio o ardal i ardal, yr un yw’r ŵyl yn ei hanfod; i lawenhau yn y Goleuni Mewnol (Atma) neu wirionedd gwaelodol popeth (Brahman).
Caiff Diwali ei hadnabod fel ‘Gŵyl y Goleuni’ a bydd cynnydd yn y defnydd o ‘divas’ neu lampau olew. Credir bod goleuni’n cynrychioli daioni ac felly fe losgir lampau amrywiol drwy’r dydd ac ymlaen i’r nos i gadw tywyllwch a drygioni draw.
Pum Diwrnod Diwali
Fel arfer, fe ddethlir pum diwrnod Diwali fel a ganlyn:
Y diwrnod cyntaf: Bydd pobl yn glanhau eu cartrefi ac yn siopa am aur neu offer cegin i ddenu lwc dda.
Yr ail ddiwrnod: Bydd pobl yn addurno’u cartrefi gyda lampau clai a chreu patrymau arbennig a elwir yn rangoli ar y llawr gan ddefnyddio powdrau lliw neu dywod.
Y trydydd diwrnod: Ar brif ddiwrnod yr ŵyl, bydd teuluoedd yn ymgasglu at ei gilydd ar gyfer y Lakshmi puja, sef gweddi i’r Dduwies Lakshmi, ac fe ddilynir hyn gyda gwleddoedd blasus ac arddangosfeydd tân gwyllt.
Y pedwerydd diwrnod: Dyma ddiwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd, pan fydd ffrindiau a pherthnasau’n ymweld gyda rhoddion a dymuniadau da ar gyfer y tymor.
Y pumed diwrnod: Bydd brodyr yn ymweld â’u chwiorydd priod (neu aelodau eraill o’r teulu’n gyffredinol erbyn hyn) fydd yn eu croesawu gyda chariad a phryd bwyd hael.
Dengys ystadegau fod y risg o dân yn cynyddu’n ystod cyfnod Diwali gan fod y dathliadau’n aml yn cynnwys tân gwyllt, goleuo canhwyllau, ‘divas’ a choginio prydau arbennig ar gyfer teulu a ffrindiau. Drwy gymryd rhai rhagofalon syml, gallwch leihau’r risg i chi ac i’ch teulu.
Larymau Mwg
Mae larymau mwg yn achub bywydau – felly gofynnwn i chi wneud yn siŵr fod gennych larwm mwg sy’n gweithio ar bob llawr o’ch cartref. Os oes tân, bydd larwm mwg yn eich rhybuddio ar unwaith, gan roi amser i chi, a phawb arall yn eich cartref, amser i ddianc yn ddiogel.
Canhwyllau
- Gosodwch ganhwyllau mewn daliwr priodol bob amser fel nad ydynt yn disgyn a’u gosod ar arwyneb sy’n gwrthsefyll gwres
- Diffoddwch bob cannwyll cyn gadael ystafell neu cyn mynd i’r gwely
- Gosodwch y canhwyllau allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes
- Peidiwch â gosod cannwyll wrth rubanau, cardiau cyfarch ac addurniadau eraill – gallent fynd ar dân yn hawdd
- Cadwch ganhwyllau oddi wrth ddrafftiau a heb fod yn agos at lenni, defnyddiau eraill neu ddodrefn allai fynd ar dân
- Cadwch ganhwyllau oddi wrth ddillad a gwallt – os oes unrhyw bosibilrwydd y gallech chi anghofio fod yna gannwyll wrth law a phlygu ar ei thraws, yna symudwch y gannwyll.
Coginio
Mae damweiniau’n digwydd wrth goginio ac os yw’r larwm mwg yn seinio’n ddamweiniol pan fyddwch chi’n coginio, agorwch ffenest a chael digon o aer i mewn i’r ystafell ac fe ddylai’r larwm ail-osod ei hun.
Os ydych chi’n coginio gwledd yn ystod Diwali, rydym ni’n eich annog i goginio’n ddiogel:
- Peidiwch â gadael i bethau dynnu’ch sylw wrth goginio – trowch y gwres i ffwrdd neu i lawr os oes angen i chi adael y bwyd sy’n coginio am gyfnod
- Cadwch lieiniau te, dillad a gwifrau trydanol draw o’r cwcer a’r hob
- Gwnewch yn siŵr nad yw handlenni sosbenni yn ymestyn dros fflam neu dros ymyl yr hob
- Cofiwch wneud yn siŵr fod y popty neu’r hob wedi eu diffodd ar ôl i chi orffen coginio.
- Byddwch yn ofalus os ydych yn gwisgo dillad llac – gallant fynd ar dân yn hawdd
- Peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain yn y gegin os oes bwyd yn coginio ar yr hob
- Ceisiwch gadw’r popty, yr hob a’r gril yn lân ac yn gweithio’n dda. Gall gormod o saim gynnau tân
Ffrio Dwfn
- Cymerwch ofal ychwanegol wrth ffrio dwfn neu goginio gydag olew – gall olew fynd ar dân yn hawdd – defnyddiwch ffriwr dwfn a reolir gan thermostat er mwyn sicrhau na fydd yn mynd yn rhy boeth.
- Gwnewch yn siŵr fod bwyd wedi ei sychu’n drylwyr cyn ei osod mewn olew poeth fel nad yw’n tasgu.
- Os yw’r olew yn dechrau mygu - mae’n rhy boeth. Diffoddwch y gwres a gadewch iddo oeri.
- Defnyddiwch ffriwr dwfn a reolir gan thermostat. Ni allant orboethi.
- Beth ddylech ei wneud os fydd sosban yn mynd ar dân.
- Peidiwch â chymryd unrhyw risg. Diffoddwch y gwres os yw’n ddiogel i wneud hynny. Peidiwch byth â thaflu dŵr drosto.
- Peidiwch ac ymladd y tân eich hun – Ewch Allan, Arhoswch Allan, Ffoniwch 999.
Tân gwyllt
Cadwch blant yn ddiogel
Rydym yn awyddus i blant fwynhau tân gwyllt ond rhaid iddynt wybod y gallant fod yn beryglus os na chant eu defnyddio’n gywir. Bob blwyddyn, mae dros hanner yr anafiadau o ganlyniad i dân gwyllt yn digwydd i blant. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant a Direct.gov fwy o arweiniad am gadw plant yn ddiogel.
Oeddech chi’n gwybod fod ffyn gwreichion yn cyrraedd tymheredd bum gwaith poethach nag olew coginio? Ni ddylid byth eu rhoi i blant o dan bump oed.
Amddiffyn eich Anifeiliaid
Dylech gymryd camau i amddiffyn eich anifeiliaid yn ystod yr adegau o’r flwyddyn pan mae tân gwyllt yn debygol o gael eu tanio.
Ble i brynu tân gwyllt
- Peidiwch â thorri corneli er mwyn arbed ychydig o bunnoedd. Prynwch dân gwyllt o siopau sydd ag enw da bob amser i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig. Mae hyn yn golygu y dylent gael BS 7114 ar y blwch.
- Weithiau fe fydd siopau’n agor am gyfnod byr cyn Noson Tân Gwyllt ond mae’n bosib nad ydynt y mannau gorau i brynu tân gwyllt. Mae’n bosib nad yw’r staff yn y siopau hyn yn wybodus iawn am ddefnyddio tân gwyllt yn ddiogel ac nad yw eu tân gwyllt yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig.
- Peidiwch â phrynu tân gwyllt o unrhyw le nad ydych yn siŵr ohono, megis cefn fan neu o stondin farchnad dros dro, ddidrwydded.
Pa dân gwyllt i’w prynu
Mae gwahanol gategorïau o dân gwyllt. Gall y cyhoedd brynu a thanio’r mwyafrif o’r tân gwyllt sydd o fewn Categorïau 1 i 3. Dyma’r math o dân gwyllt y gallech eu defnyddio dan do, yn eich gardd neu mewn arddangosfa. Darllenwch y pecyn yn ofalus bob amser a gwnewch yn siŵr fod y tân gwyllt a brynwch yn addas ar gyfer y man lle byddwch yn eu tanio.
Dim ond defnyddwyr tân gwyllt proffesiynol all brynu rhai tân gwyllt. Mae’r rhain yn cynnwys bomiau aer, bomiau awyr, marŵn awyr, bomiau mewn morter a marwniau mewn morter, pob math o glecwyr, rocedi bach, tân gwyllt sy’n hedfan ar grwydr, rhai o Gategori 2 a 3 sydd dros gyfyngder maint arbennig, a holl dân gwyllt Categori 4.
Cynnau tân gwyllt
Un person yn unig ddylai fod yn gyfrifol am dân gwyllt. Os mai chi yw hwnnw, yna gwnewch yn siŵr eich bod wedi cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol. Darllenwch y cyfarwyddiadau yng ngolau dydd a pheidiwch ag yfed alcohol nes mae pob un wedi cael eu tanio. Paratowch o flaen llaw ac yng ngolau dydd neu gyda thorsh (byth yng ngolau fflam agored).
Ar y noson, byddwch angen:
- torsh
- bwced neu ddau o ddŵr
- menig a rhywbeth i amddiffyn eich llygaid
- bwced o bridd meddal i osod y tân gwyllt ynddo
- offer addas i gynnal ac i danio rhai tannau gwyllt megis Olwynion Catrin neu rocedi
Os ydych chi’n meddwl am ddefnyddio tân gwyllt fel rhan o’ch dathliadau, dilynwch y cod tân gwyllt, os gwelwch yn dda
Dilynwch y cod tân gwyllt bob amser
- Sefwch yn ôl
- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ
- Cadwch dân gwyllt mewn blwch sydd ar gau
- Prynwch dân gwyllt sydd wedi eu nodi â CE
- Goleuwch y tân gwyllt hyd braich, gan ddefnyddio tapr
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt
- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blentyn o dan bump oed
- Peidiwch ag yfed alcohol os ydych yn goleuo tân gwyllt
- Goruchwyliwch blant o amgylch tân gwyllt
- Goleuwch ffyn gwreichion un ar y tro a gwisgwch fenig
- Peidiwch byth a rhoi tân gwyllt yn eich poced na’u taflu
- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi ei oleuo – hyd yn oed os nad yw wedi tanio, fe allai ffrwydro
- Cyngor ar gyfer trefnwyr arddangosfeydd tân gwyllt
Tân gwyllt a’r gyfraith
Mae cyfreithiau ynglŷn â phryd y gellir gwerthu tân gwyllt, ac i bwy – yn ogystal â’r amserau y caiff tân gwyllt eu tanio.
Os ydych o dan 18 oed, ni chewch:
- brynu’r mathau o dân gwyllt sydd i’w gwerthu i oedolion yn unig
- cynnal tân gwyllt mewn mannau cyhoeddus
- os gwnewch hyn, gallai’r heddlu roi dirwy o £80 i chi yn y fan a’r lle.
Mae’n anghyfreithlon:
- tanio neu daflu tân gwyllt yn y stryd neu mewn man cyhoeddus arall
- tanio tân gwyllt rhwng 11.00 pm a 7.00 am – ar wahân i rai dathliadau
- os gewch chi eich dyfarnu’n euog mewn llys barn, gallech gael dirwy o hyd at £5,000 a gallech gael eich carcharu am hyd at dri mis. Gallech dderbyn dirwy o £80 yn y fan a’r lle.
- Pryd gallwch ddefnyddio tân gwyllt yn ystod dathliadau
Gallwch ddefnyddio tân gwyllt:
- hyd hanner nos ar Noson Tân Gwyllt
- hyd 1.00 am ar Nos Galan, Diwali a Blwyddyn Newydd y Tsieineaid
Pryd oedd y tro olaf i chi wirio eich larwm mwg?
Ein blaenoriaeth yw eich cadw chi’n ddiogel yn eich cartref.
Mae gwiriadau diogel ac iach ar gael yn rhad ac am ddim a gallwch
Gysylltu â ni ar 0800 169 1234 rhwng 9am a 5pm i gofrestru, o ddydd Llun i ddydd Gwener