Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae’r dudalen hon yn nodi polisi defnydd derbyniol cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar draws ei holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol (X (a elwid gynt yn Twitter), Facebook, Instagram, LinkedIn a YouTube).

Nid yw ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro 24 awr y dydd ac ni ddylid eu defnyddio i roi gwybod am argyfyngau. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.

Mae ein platfformau cyfryngau cymdeithasol yma i ddarparu gwybodaeth a chyngor i gymunedau Gogledd Cymru. Rydym yn croesawu adborth adeiladol, ymgysylltiad a safbwyntiau gwahanol; fodd bynnag, rhaid aros yn barchus.

Ni fydd casineb ar-lein, cam-drin, aflonyddu digidol a bwlio seibr yn cael eu caniatau ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol.


Cynnwys annerbyniol

Byddwn yn cymryd camau ar unwaith os yw unrhyw gynnwys (gan gynnwys sylwadau, fideos, delweddau, GIFs, atodiadau, dolenni, emojis) yn:

  • Difenwol, sarhaus, camarweiniol neu ffug
  • Ymosodol neu fygythiol – mae hyn yn cynnwys rhegu, sillafiadau wedi’u haddasu gyda’r un ystyr, ac ati
  • Bygythiol tuag at ein staff, cynghorwyr neu ddefnyddwyr eraill y platfform
  • Yn cynnwys data personol sy’n ymwneud â staff neu aelodau’r cyhoedd
  • Yn annog troseddau casineb neu’n cynnwys geiriau casineb
  • Anweddus, sarhaus neu rywiol ei natur
  • Yn wahaniaethol mewn unrhyw ffordd
  • Yn hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon
  • Yn hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau unigol
  • Yn amherthnasol i’r post gwreiddiol neu bwrpas y dudalen
  • Yr un neges yn cael ei phostio sawl gwaith (‘sbamio’)
  • Ymddygiad bwriadol o danio neu darfu (a elwir yn ‘trolio’)

Cymedroli cynnwys

Os yw eich cynnwys yn gysylltiedig i unrhyw un o’r rhestr uchod, gall gael ei guddio neu ei ddileu. Gallwn ymateb yn gyhoeddus i’ch cynnwys a/neu anfon neges uniongyrchol atoch i ofyn i chi ei dynnu ar unwaith. Gallwn hefyd rwystro eich mynediad i’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn eich hysbysu ein bod yn gwneud hyn.

Yn dibynnu ar y cynnwys, byddwn hefyd yn cymryd sgrinluniau o’r negeseuon ac yn ystyried camau cyfreithiol neu eu gyrru i’r heddlu i’w hymchwilio. Os ydym yn credu bod y cynnwys rydych yn ei bostio'n amhriodol iawn, byddwn yn cymryd camau ar unwaith i’w ddileu a rhwystro eich mynediad i’n cyfrifon.


Trosedd casineb

Diffinnir trosedd casineb fel unrhyw ddigwyddiad sy’n cael ei weld gan y dioddefwr (neu unrhyw berson arall) fel un sydd wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb tuag at eu hunaniaeth gymdeithasol wirioneddol neu ganfyddedig. Mae hunaniaethau cymdeithasol yn cynnwys:

  • Anabledd
  • Hunaniaeth rhywedd
  • Hil, ethnigrwydd neu genedligrwydd
  • Crefydd, ffydd neu gred
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Gall casineb ac aflonyddu fod yn ymddygiad troseddol neu an-droseddol a gall gynnwys sylwadau neu ddelweddau sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol neu negeseuon testun.


Datgeliadau neu honiadau diogelu

Os gwnewch unrhyw honiadau neu ddatgeliadau diogelu ar ein cyfryngau cymdeithasol, bydd y rhain yn cael eu gyrru i’r sefydliadau perthnasol fel rhan o’n dyletswydd gofal. Mae’n well codi’r pryderon hyn yn uniongyrchol drwy’r sianeli cywir.


Cwynion

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, gan roi ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod eich cysylltiad â ni yn broffesiynol, yn gwrtais ac yn rhagori ar eich disgwyliadau.

Fodd bynnag, rydym yn derbyn bod pethau’n gallu mynd o’i le weithiau, ac ar yr adegau hyn mae angen i ni wrando ar eich barn a rhoi pethau yn ôl ar y trywydd cywir. Mae gweithdrefn gwynion y Gwasanaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth am beth sy’n cael ei ystyried yn gŵyn a sut y gallwch gyflwyno cwyn.


Ein gohebiaeth â chi

Os oes gennych sylw i’w wneud am lythyr neu e-bost yr ydym wedi’i anfon atoch, gofynnwn i chi beidio â chynnwys enw’r swyddog sydd wedi’i anfon mewn neges gyhoeddus. Os ydych am ei godi gyda ni, anfonwch neges breifat atom fel y gallwn ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych. Gallwch hefyd anfon e-bost at enquiries@northwalesfire.gov.wales

 

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen