Pam gweithio i ni?
Pam gweithio i ni?
Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb ym mhob agwedd o'n gwasanaeth.
Y nod yw i'n gweithlu fod yn wirioneddol gynrychioliadol o'n cymuned yng Ngogledd Cymru, ac i bob gweithiwr teimlo ei fod yn cael ei barchu, ei werthfawrogi a'i gynnwys.
Mae amrywiaeth ein gweithlu yn bwysig iawn, ac rydym yn croesawu pobl dalentog o bob cefndir i ystyried gyrfa yn ein Gwasanaeth.
Rydym wedi gosod amcanion a blaenoriaethau clir yn ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac mae hyn yn sicrhau ein bod yn gyflogwr cynhwysol ac yn ddarparwr gwasanaethau cyhoeddus. Gallwch gael mynediad at ein strategaeth yma.
Mae ein Hadroddiad Perfformiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn amlinellu cyflawniadau allweddol a chynnydd yn y flwyddyn ddiwethaf – cliciwch yma i gael mynediad at yr adroddiad.
Fel sefydliad sector cyhoeddus gyda 250 neu fwy o weithwyr, rydym yn casglu, monitro a chyhoeddi data Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn effeithiol bob blwyddyn. Bob blwyddyn, cytunir ar gamau clir a chymerir hwy i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud. Gallwch ddysgu mwy am y gwaith hwn a chael mynediad at yr adroddiad yma.
Rhwydweithiau Staff
Mae gan ein Gwasanaeth bedwar Rhwydwaith Staff - Rhwydwaith Staff LHDT+ FirePride; Merched yn y Gwasanaeth Tân; Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth; a Rhwydwaith Staff Crefydd, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol (REACH).
Mae pob rhwydwaith staff yn cyfarfod yn rheolaidd, yn darparu cefnogaeth i'w aelodau (sy'n croesawu cynghreiriaid hefyd), yn trefnu digwyddiadau a seminarau, ac yn gweithredu fel bwrdd sain pwysig i ymgynghori, cynghori a llywio cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau.
Ymrwymiad i’r Iaith Gymraeg
Rydyn ni’n ymroddedig i recriwtio gweithwyr gyda lefel addas o sgiliau yn yr Iaith Gymraeg er mwyn darparu gwasanaeth i’r cyhoedd a chefnogi gweithwyr sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella’u Cymraeg i’w ddefnyddio yn y gweithle.
Er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth yn cyfarfod â gofynion yr Iaith Gymraeg, mae gofyn i weithwyr gyflawni o leiaf lefel 2 mewn sgiliau siarad a gwrando yn y Gymraeg o fewn 12 mis o'u penodiad, os nad yw’r rôl wedi cael ei hysbysebu fel un lefel 4, lle mae angen bod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg adeg yr apwyntiad.
Bydd pob swydd wag a hysbysebir yn nodi’r lefel ofynnol yn sgiliau’r iaith Gymraeg.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydnabod y gall y gofynion uchod fod yn heriol i rai unigolion. Mae’r Gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth a chymorth i unigolion i gyrraedd at y lefel ofynnol yn yr iaith Gymraeg. Mae gwybodaeth bellach i’w weld am ein hymroddiad i’r iaith Gymraeg i’w weld ar dudalen Yr Iaith Gymraeg.
Hyfforddiant a Datblygiad
Ymfalchïwn yn ein hymroddiad i ddatblygu pobl yn eu gyrfaoedd a rhoi’r hyfforddiant sydd arnynt ei angen i lwyddo yn eu gwaith.
Byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch chi’r hyfforddiant fydd ei angen ar gyfer eich rôl gan eich cefnogi ble gallwn er mwyn i chi ddatblygu o fewn y Gwasanaeth.
Mae buddion eraill yn cynnwys...
Cyflog Cystadleuol
Bydd staff cefnogol yn cael eu talu yn unol â'r graddfeydd cyflogau y cytunwyd arnynt gan y Cyd-gyngor ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol. Bydd dechreuwyr newydd yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog a byddant yn derbyn codiadau i frig y raddfa drwy gynyddrannau. Caiff cyflog pob swydd ei hysbysebu fel rhan o'r wybodaeth am y swydd.
Bydd diffoddwyr tân Llawn Amser, diffoddwyr tân Ar-Alwad a gweithredwyr yr ystafell rheoli yn cael eu talu yn unol â’r graddfeydd cyflog y cytunwyd arnynt gan y Cyd-gyngor ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol. Bydd y cyfraddau tâl presennol yn cael eu hysbysebu fel rhan o'r wybodaeth am swyddi gwag pan fydd diffoddwyr tân Llawn Amser llawn a gweithredwyr yr ystafell reoli yn cael eu recriwtio.
Mae gwybodaeth am y cyfraddau tâl presennol ar gyfer diffoddwyr tân Ar Alwad ar gael yma.
Gwyliau Blynyddol
Hawl Gwyliau Blynyddol
Mae gan ein staff Cefnogol hawl i 25 diwrnod o'r adeg y byddant yn cael eu penodi, ac mae hynny'n codi i 28 diwrnod y flwyddyn ar ôl cwblhau pum mlynedd o wasanaeth di-dor. Mae gŵyl gyhoeddus yn ychwanegol at hyn.
Mae gan ein diffoddwyr tân llawn amser hawl i 30 diwrnod, sy'n codi i 33 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor. Mae 8 gŵyl gyhoeddus yn ychwanegol at hyn.
Mae gan ein diffoddwyr tân Ar-alwad hawl i 30 diwrnod y flwyddyn, sy'n codi i 37 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor.
Gwyliau am Bresenoldeb Da
Rydym yn ymroddedig i gydnabod presenoldeb da ac yn awyddus i annog agwedd gadarnhaol tuag at weithwyr sy’n cyflawni presenoldeb da. Bydd gweithwyr sydd heb ddim absenoldebau (ar wahân i wyliau blynyddol neu absenoldeb arbennig gyda thâl) o fewn eu cyfnod gwyliau blynyddol diweddaraf yn derbyn credyd o 1 diwrnod o wyliau mewn cydnabyddiaeth o’u presenoldeb da.
Absenoldeb teuluol
Absenoldeb teuluol
Rydym yn awyddus i gefnogi’n staff drwy wahanol newidiadau eu bywyd. Gwyddom hefyd fod pob teulu a sefyllfa’n unigryw, a dyna pam fod gennym ystod o gefnogaeth ar gael.
Absenoldeb mamolaeth
Mae gan bob gweithiwr beichiog yr hawl i gymryd 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin, ac yna Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol am 26 wythnos arall; mae'r hawl hon yn berthnasol waeth beth fo hyd gwasanaeth y gweithiwr, neu nifer yr oriau y maent yn eu gweithio bob wythnos.
Absenoldeb tadolaeth
Mae gweithwyr yn gymwys i gael absenoldeb tadolaeth o'u diwrnod cyntaf o gyflogaeth gyda'r Gwasanaeth.
Absenoldeb rhieni wedi ei rannu
Gall pob rhiant gymryd cyfanswm o 18 wythnos o absenoldeb rhiant ar gyfer pob plentyn, a gellir cymryd y cyfnod hwnnw cyn pen-blwydd y plentyn yn ddeunaw oed.
Absenoldeb mabwysiadu
Cynigwn absenoldeb mabwysiadu statudol yn unol ag absenoldeb mamolaeth statudol (cyfanswm o 52 wythnos o absenoldeb; hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth gyffredin a hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol), ond cynigwn dal mabwysiadu galwedigaethol pellach ar gyfer y rhai sy’n cyfarfod â’r hyd gymwys o faen prawf gwasanaeth.
Absenoldeb Rheini
Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod gan ein staff y gallu i gydbwyso eu gyrfa gyda’u rôl fel gofalwr yn ogystal. Mae gennych y dewis o gymryd absenoldeb statudol (hyd at 18 wythnos yn ddi-dâl) i dreulio amser gyda’ch plentyn os bydd ei angen arnoch.
Absenoldeb newyddenedigol
Rydym yn deall bod cael plentyn mewn gofal newyddenedigol yn brofiad hynod o heriol ac mae'r Gwasanaeth wedi ymrwymo i gefnogi ei weithwyr drwy'r cyfnod anodd hwn.
Er mwyn cefnogi gweithwyr yn ystod yr amser anodd hwn, mae'r Gwasanaeth wedi dewis cynyddu cyflog gofal newyddenedigol y tu hwnt i'r isafswm statudol i'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf hyd gwasanaeth cymwys.
Cynllun Pensiwn
Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân:
Mae Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn gynllun pensiwn galwedigaethol â buddion wedi eu diffinio a’i gymeradwy gan dreth.
Am fwy o wybodaeth ar y Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân, ewch i:
https://www.dyfedpensionfund.org.uk/fire-pension-scheme/
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:
Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun buddion wedi eu diffinio.
Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ewch i: Gronfa Bensiwn Clwyd
Gwisg am Ddim
Parcio am ddim ar safleoedd y Gwasanaeth
Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
Ffisiotherapi
Cefnogaeth Lles
Ffitrwydd
- Tîm Iechyd a Ffitrwydd
- Mynediad gym am ddim
- 45 munud yr wythnos o hawliant ffitrwydd
Cronfa Calon
Elusen y Diffoddwyr Tân
Cynllun Beicio i’r Gwaith (Cycle2work)
Cerdyn Golau Glas Corfforaethol




