Abergele
Gorsaf Dân Abergele
Cyfeiriad:
Groes Lwyd
Abergele
Conwy
LL22 7TA
Ffôn: 01745 535250
Manylion y criw:
Mae Gorsaf Dân Abergele yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
O Abergele i Dywyn hyd at Landdulas a Rhyd-y-foel. Ac yna tua , Llansan-Siôr, Moelfre, Llanfair Talhaearn a Llansannan.
Safleoedd o Risg:
Ysbyty'r Frest, Fflatiau Penysarn a Neuadd Cinmel.
Hanes yr Orsaf:
Sefydlwyd yr orsaf fel brigâd dân drefol ym 1901 gan Gyngor Dosbarth Abergele. Defnyddiwyd ceffylau a chyfarpar pwmp â llaw yr adeg honno. Cafodd ei hailenwi yn 1909 yn Frigâd Dân Abergele a Phensarn. Daeth yn rhan o'r Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ym 1941, a daeth yn rhan o Wasanaeth Tân ar y cyd rhwng Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn ym 1948. Roedd yr orsaf yn rhan o Wasanaeth Tân Clwyd ym 1974, cyn uno â Brigâd Gogledd Cymru ym 1996.
Roedd yr orsaf wreiddiol ym Mharc Pentre Mawr, Abergele, ac fe agorwyd yr orsaf bresennol y mis Medi 1971.
Gwaith yn y Gymuned:
Mae Gorsaf Dân Abergele yn cynnal golchfa geir flynyddol i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân, ac adeg y Nadolig maent yn darparu basgedi bwyd i'r holl ddiffoddwyr tân rhan amser yn yr ardal.
Yn y 1990au cynnar, llwyddodd yr orsaf i godi miloedd o bunnoedd drwy gymryd rhan mewn diwrnod dringo ysgol noddedig a drefnwyd gan Eddie Watt, cyn ddiffoddwr tân. Defnyddiwyd yr arian a godwyd i dalu am driniaeth yn America i blentyn lleol a oedd yn dioddef o gancr. Mae'r plentyn hwnnw yn dal i fod yn fyw ac yn iach heddiw.