Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2027 - 2028
Un o'r prif amcanion ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yw mynd ati’n barhaus ac mewn modd cynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â sut y bydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol 2027- 2028. Mae fersiwn hawdd ei ddeall o'r cynllun ar gael.
Rydym am glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer 2027–2028.
Cwblhewch ein harolwg ar-lein ar gyfer Cynllun Gweithredu Risg Cymunedol 2026-2027
Sut i roi adborth
- Anfonwch e-bost i ni i ofyn am gopi papur o'r holiadur (mae ffurflen ddychwelyd am ddim ar gael).
- Ffoniwch neu anfonwch neges destun atom ar 07920 084 603 os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd.Ysgrifennwch atom:
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Ffordd Salesbury, Parc Busnes Llanelwy Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JJ
Mae'r ymgynghoriad ar agor o 19 Hydref i 13 Rhagfyr 2026 (hanner nos).
Bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu a'i gyflwyno i'r Awdurdod Tân ac Achub ym mis Ebrill 2027. Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi a bydd yn dod i rym ar unwaith.
Mae cwestiynau cyffredin ac Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb am yr ymgynghoriad hwn ar gael drwy'r dolenni isod neu ar yr ochr dde.
- Cwestiynau cyffredin Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol 2027-2028
- Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb Cyn-ymgynghoriad Cynllun Gweithredy Rheoli Risg Cymunendol 2027-2028
Cefndir
Mae'r cynllun hwn yn nodi'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hirdymor a amlinellir yn ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024–2029. Dyma'r trydydd cynllun gweithredu blynyddol ac mae'n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill.
Gallwch gael mynediad at y cynlluniau hyn ar ein tudalen Cynlluniau Corfforaethol a Hunanasesiad.



