Recriwtio swyddi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
Recriwtio swyddi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad.
Os hoffech gofrestru’ch diddordeb yn ffurfiol, ewch i'r porth cofrestru ar-lein isod.
Cewch ddewis cwblhau’r Ffurflen Gofrestru Ar-lein un ai yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd angen cyfeiriad e-bost gweithredol arnoch i gwblhau’r broses gofrestru.
Yn ystod y broses Cofrestru Ar-lein byddwn yn gofyn i chi roi’ch manylion personol a Rhagolwg Gyrfa Realistig er mwyn i chi gael asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl – bydd y canlyniadau’n breifat ac ar gyfer eich ystyriaeth chi yn unig. Os byddwch yn dewis parhau â’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ateb cwestiynau syml i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.
Bydd yr asesiad cymhwyster yn gofyn y cwestiynau canlynol:-
- Ydych chi yn 18 oed neu drosodd
- Os oes gennych hawl i weithio yn y DU
- Oes gennych unrhyw euogfarnau a allai eich rhwystro rhag gweithio fel Diffoddwr Tân (nid oes yn rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarnau sydd wedi ‘dod i ben’, ond mae’n rhaid i chi ddatgan pob euogfarn sydd heb eu disbyddu; bydd peidio â gwneud hynny yn arwain at eich cais yn cael ei wrthod yn awtomatig. Byddwn yn glynu wrth Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr a Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006)
- Pa un ai a ydych yn gallu cyrraedd yr orsaf dân mewn amser ymateb boddhaol
- Pa un ai a ydy’ch oriau argaeledd yn bodloni gofynion yr orsaf dân yr ydych yn ymgeisio amdani
- Pa un ai a oes swyddi gwag yn yr orsaf dân yr ydych yn ymgeisio amdani
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r asesiad cymhwyster, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r camau nesaf fel rhan o’r broses.
Gwyliwch fideo 'Erioed wedi meddwl sut beth ydi bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?'
Gweld copi o'r Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS
Gweld copi o'r Llawlyfr Ymarfer ar gyfer y Profion Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân
Gweld copi o'r Llawlyfr Ymarfer ar gyfer yr Holiadur Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân