Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnodau Darganfod a digwyddiadau Cwrdd â'r tîm

Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiadau 'Cwrdd â'r Tîm' neu 'Diwrnodau Darganfod!

Rydyn ni’n chwilio am weithlu sy’n adlewyrchu'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu - mae hyn yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Gogledd Cymru.

Byddan ni’n croesawu ceisiadau gan bawb ac rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym yn annog pobl o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i gychwyn gyrfa gyda ni.

Ydi gyrfa fel Diffoddwr Tân yn un iawn i ti?

Efallai dy fod wedi bod yn meddwl amdano ers tro, neu yn newydd ddechrau meddwl am opsiynau gyrfa, mae ein digwyddiadau darganfod yn lle gwych i ddechrau.

Wrth i ni baratoi ar gyfer recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser yn y dyfodol, yn gynnar yn 2027, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn hydref 2026.

Cofrestrwch ar y digwyddiadau trwy TicketTailor yma

Digwyddiadau Cwrdd â'r Tîm

Lleoliadau – Ar lein, Dolgellau, Caernarfon a Wrecsam

Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i ddarpar ddiffoddwyr tân ddarganfod mwy am y rôl, cwrdd â diffoddwyr tân a staff o wahanol adrannau, yn ogystal â darganfod mwy am ofynion corfforol y rôl a sut i baratoi ar gyfer profion corfforol yn effeithiol.

Diwrnodau Darganfod

Lleoliadau – Y Rhyl

Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i ddarpar ddiffoddwyr tân ddarganfod mwy am y rôl, cwrdd â diffoddwyr tân a staff o wahanol adrannau, yn ogystal â darganfod mwy am ofynion corfforol y rôl a sut i baratoi ar gyfer profion corfforol yn effeithiol.

Yn ogystal, bydd y rhai sy'n mynychu yn cael cyfle i wisgo cit tân a rhoi cynnig ar ddefnyddio offer diffodd tân.

Sylwer: rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen