Hybu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn llwyr ymroddedig i gyfarfod â’n dyletswyddau yn ymwneud â chydraddoldeb ymhob maes o’n gwasanaeth. Mae’r Gwasanaeth yn annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymysg ein gweithle, a thrwy werthfawrogi gwahaniaethau a hybu cydraddoldeb , gellir herio rhagfarnau a chael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon.
Y nod yw cael gweithle sy’n gynrychiolaeth wir o bob adran o’r gymdeithas a’n cymunedau, a bod pob gweithiwr yn teimlo’u bod yn cael eu parchu ac yn gallu rhoi o’u gorau.
Cymer y Gwasanaeth gamau i annog pobl o wahanol grwpiau gydag anghenion gwahanol neu gyda phrofiad o anfantais neu ymgysylltiad isel yn y gorffennol i ymgeisio am swyddi drwy fentrau cadarnhaol amrywiol, digwyddiadau gyrfaoedd a ffeiriau swyddi mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru.
Ni fydd y Gwasanaeth yn osgoi nag yn gostwng ei safonau recriwtio a phenodi er budd unigolion o grwpiau â chynrychiolaeth isel ond fe fydd yn ystyried addasiadau rhesymol fel bo’n addas ar bob cam o’r prosesau recriwtio a phenodi.
Cefnogwyr Pride Tân:
Unigolion yw Cefnogwyr Pride Tân sydd ddim yn uniaethu eu hunain fel Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol neu Draws (LHDTC+) ond sy’n credu y dylai pobl allu bod yn rhydd i fod yn nhw eu hunain ac i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae gan y Cefnogwyr rôl bwysig yn creu amgylchedd cynhwysol a gwella ymdriniaeth o bobl LHDTC+ yn y Gwasanaeth. Mae Cefnogwyr Pride Tân ar gael hefyd i weithwyr i drafod ac i ateb unrhyw gwestiynau allai godi.