Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024 - 2029
Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024 - 2029
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben – mae eich adborth yn cael ei gasglu a bydd yn cael ei gyfathrebu’n fuan
Un o'r prif amcanion ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yw mynd ati’n barhaus ac mewn modd cynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â sut y bydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.
Ym mis Gorffennaf 2024, cafodd ein CRMP pum mlynedd ei gyhoeddi, yn sgil ymgynghoriad â’r cyhoedd, yn ogystal â’n Cynllun Gweithredu ar gyfer 2024-25, a oedd yn cynnwys amcanion gwella a llesiant a fyddai yn ein galluogi i gyflawni yn erbyn ein hamcanion hirdymor. Mae’r ddau gynllun i’w cael yma.
Y Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2025-26 yw’r ail gynllun blynyddol i gynnwys amcanion sy’n cyflawni yn erbyn amcanion CRMP 2024-29.
Dweud eich Dweud!
Rhowch wybod i ni beth rydych CHI’N ei feddwl trwy lenwi ein holiadur ar ôl darllen ein cynigion - gallwch darganfod mwy am sut i gymryd rhan yma.