Elusen y Diffoddwyr Tân
Cyniga Elusen y Diffoddwyr Tân gefnogaeth arbenigol, gydol oes i aelodau gwasanaethau tân ac achub y DU, gan rymuso aelodau i gyflawni lles meddyliol, corfforol a chymdeithasol drwy eu bywydau. Cynigir cefnogaeth gyfrinachol, bersonol ar gyfer yr holl gymuned gwasanaethau tân, gan ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles cymdeithasol mewn canolfannau adfer, yn rhithiol, ar-lein ac mewn cymunedau ar draws y DU. Gan ddathlu iechyd a lles y gweithwyr – y rhai sy’n gweithio, wedi ymddeol neu’n ddibynnol – nod yr elusen yw sicrhau fod ein buddiolwyr yn gallu byw’n dda, am oes. Ac nid diffoddwyr tân mohonynt i gyd, byddant yn cefnogi holl bersonél y gwasanaeth tân ac achub, waeth beth fo’u rôl o fewn y gwasanaeth. Maent yno hefyd i’r rhai sydd wedi ymddeol, yn ogystal â’u priod a’r rhai sy’n ddibynnol arnynt, pan yn gymwys.