Rheolwr Diogelwch Cymunedol
Enw: Kevin
Rôl: Rheolwr Diogelwch Cymunedol
Ychydig bach am fy rôl…
Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?
Ar ddiwrnod arferol, rydw i’n trafod gweithgareddau gydag aelodau staff a dyrannu a blaenoriaethu gwaith.
Rydw i hefyd yn darllen am y digwyddiadau sydd wedi digwydd dros nos a rheoli’r camau gweithredu yn briodol yn nhermau cynnal ymweliadau diogelwch dilynol, yn ogystal â gwirio e-byst ac ymateb neu gymryd camau fel bo angen.
Fel rhan o’m rôl rydw i hefyd yn cadeirio cyfarfodydd, yn fewnol ac allanol ac yn ymgysylltu gydag asiantaethau allanol i annog atgyfeiriadau gan grwpiau targed. Fel rhan o fy rôl fel Rheolwr Diogelwch Cymunedol, rydw i hefyd yn cynllunio ymgyrchoedd ac yn delio gydag ymholiadau gan y cyhoedd a’r staff, yn ogystal â chynnal cyfweliadau staff, gwerthusiadau ac asesiadau yn ôl y galw.
Fel swyddog dyletswydd hyblyg rydw i hefyd yn mynd at ddigwyddiadau gweithredol yn ôl y galw.
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?.
Y ffaith fy mod yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch pobl. Rydw i hefyd yn mwynhau amrywiaeth y rôl – mae pob diwrnod yn wahanol.
Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?
Oherwydd fy mod eisiau bod yn rhywun a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl o ran amddiffyn ac ymateb.
Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?
Sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth da, yn ogystal â chefndir mewn gwaith ataliol a dealltwriaeth glir o’r modd y gallwn ddiogelu pobl yn well,
Fe ddylech hefyd meddu ar ddealltwriaeth o’r buddion o ran cydweithio a gweithio mewn partneriaeth.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?
Gweithiwch yn galed, byddwch yn gyfarwydd â’ch pwnc a byddwch yn bositif.