Ffitrwydd
Ffitrwydd
Beth yw Ffitrwydd Corfforol?
Mae ffitrwydd corfforol yn gyflwr o iechyd a lles. Mae'n cael ei ystyried yn fesur o allu'r corff i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd.
Pam fod hyn yn bwysig ar gyfer diffodd tanau?
Mae diffodd tanau’n cynnwys ymateb i argyfyngau mewn sefyllfaoedd, amgylcheddau ac amodau tywydd sy'n newid yn gyflym. Mae rôl diffoddwr tân yn aml yn gofyn am gario a rholio pibell, dringo grisiau, codi ysgolion a defnyddio rhaffau i symud offer tra'n gwisgo Offer Gwarchod Personol llawn a all fod yn gyfyngol ac yn gynnes iawn. Gall rhywfaint o'r offer hefyd bwyso hyd at 120kg felly mae lefel dda o ffitrwydd corfforol yn hanfodol i sicrhau eich diogelwch eich hun, eich criw a'r cyhoedd wrth gyflawni eich dyletswyddau.
Nid yw ffitrwydd corfforol yn sgil. Nid yw'n rhywbeth y gellir ei ddysgu a'i gadw am gyfnod estynedig. Er mwyn gwella cydrannau ffitrwydd, mae gwneud ymarfer corff rheolaidd trwy gydol eich gyrfa yn hanfodol.
Bydd eich lefel o ffitrwydd corfforol yn cael ei bennu trwy fesur eich perfformiad yn ystod nifer o dasgau diffodd tân corfforol ac ymarferol (Profion Dethol Diffoddwyr Tân Cenedlaethol NFST) a nodir isod.
Os byddwch yn llwyddiannus ar ddiwrnod y dethol corfforol, bydd gofyn i chi hefyd wneud prawf ffitrwydd ‘aerobig’ i ragweld eich capasiti aerobig (mewn mlsO2/kg/mun). Mae hyn yn ein galluogi i asesu eich gallu i wneud ymarfer corff am gyfnodau hirach, sy'n bwysig ar gyfer diffodd tanau’n ddiogel. Isafswm y gofyniad ar gyfer ymgeiswyr adeg recriwtio yw 42.3 mls/O2/kg/mun (sy'n cyfateb i lefel 8.8 ar brawf blîp). Bydd hyn yn cael ei asesu gan ddefnyddio un o'r canlynol:
Dysgwch mwy am ffitrwydd Diffoddwyr Tân isod:
- Gofynion Corfforol ar gyfer y Diwrnod Dethol
- Adolygiad Iechyd a Ffitrwydd Blynyddol
- Canllawiau Pellach
1. Gofynion Corfforol ar gyfer y Diwrnod Dethol
Yn ystod y diwrnod dethol corfforol, bydd gofyn i chi wneud cyfres o brofion sydd wedi'u cynllunio i brofi eich ffitrwydd corfforol, eich gallu i weithio fel rhan o dîm a'ch ymateb i amgylcheddau sy'n gyffredin mewn rôl diffoddwr tân.
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gwneud y mathau hyn o brofion o'r blaen. Byddwch yn cael canllawiau a chyfarwyddyd clir ar sut i ddefnyddio'r offer dan sylw, yn ogystal ag arddangosiad o bob prawf unigol. Bydd gofyn i chi wisgo Offer Gwarchod Personol Diffoddwr Tân i wneud y Profion Dethol Diffoddwyr Tân Cenedlaethol (NFST) canlynol:

Gellir gweld fideo o'r holl brofion yma.
Gellir gweld fideos unigol sy'n dangos y profion codi ysgol a cario offer trwy glicio ar y dolenni isod:
2. Adolygiad Iechyd a Ffitrwydd Blynyddol
Trwy gydol eich gyrfa fel diffoddwr tân, eich cyfrifoldeb chi yw cynnal y lefelau ffitrwydd corfforol a meddygol er mwyn cyflawni eich dyletswyddau. Er mwyn sicrhau bod y safonau iechyd a ffitrwydd hyn yn cael eu cynnal trwy gydol eich gyrfa, mae'n bolisi gwasanaeth i'n diffoddwyr tân gael adolygiad iechyd a ffitrwydd blynyddol.
Fel rhan o'r adolygiad iechyd a ffitrwydd, mae'n ofynnol i bob gweithiwr gael cyfres o fesuriadau corfforol (cyn-sgrinio) i benderfynu ar eu statws iechyd a ffitrwydd a’u haddasrwydd ar gyfer dyletswyddau ar yr ochr weithredol. Sef:
- Cyfansoddiad y corff: e.e. Mynegai màs y corff (BMI), % braster y corff
- Pwysedd gwaed pan yn gorffwys
- Asesiad iechyd cyn-sgrinio
- Adolygiad o ffitrwydd cardio-resbiradol (prawf Chester Treadmill neu Chester Step)
Yn ogystal â'r Adolygiad Iechyd a Ffitrwydd Blynyddol, bydd gofyn i chi hefyd gael asesiad meddygol cyfnodol bob 3 blynedd gyda'n darparwyr iechyd galwedigaethol.
3. Canllawiau Pellach

