Recriwtio swyddi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
Recriwtio swyddi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Mae Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn unigolion medrus sy'n dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ac yn cynnwys athrawon, ffermwyr, gweinyddwyr a rhieni sy'n aros adref i warchod plant.
Fodd bynnag, maent hefyd yn darparu gwasanaeth wrth gefn gyda'r nos, yn ystod y dydd a dros y penwythnos er mwyn helpu i amddiffyn y cymunedau maent yn byw neu'n gweithio ynddynt.
Dysgwch mwy am y rôl yma.
Cofrestrwch eich diddordeb
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad.
Os hoffech gofrestru’ch diddordeb yn ffurfiol, ewch i'r porth cofrestru ar-lein isod.
Cewch ddewis cwblhau’r Ffurflen Gofrestru Ar-lein un ai yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd angen cyfeiriad e-bost gweithredol arnoch i gwblhau’r broses gofrestru.
Yn ystod y broses Cofrestru Ar-lein byddwn yn gofyn i chi roi’ch manylion personol a Rhagolwg Gyrfa Realistig er mwyn i chi gael asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl – bydd y canlyniadau’n breifat ac ar gyfer eich ystyriaeth chi yn unig. Os byddwch yn dewis parhau â’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ateb cwestiynau syml i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.
Bydd yr asesiad cymhwyster yn gofyn y cwestiynau canlynol:-
- Ydych chi yn 18 oed neu drosodd
- Os oes gennych hawl i weithio yn y DU
- Pa un ai a ydych yn gallu cyrraedd yr orsaf dân mewn amser ymateb boddhaol
- Pa un ai a ydy’ch oriau argaeledd yn bodloni gofynion yr orsaf dân yr ydych yn ymgeisio amdani
- Pa un ai a oes swyddi gwag yn yr orsaf dân yr ydych yn ymgeisio amdani
Bydd angen hefyd datgelu unrhyw rybuddion neu euogfarnau 'wedi'u treulio' o dan ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 pan ofynnir amdanynt fel rhan o'r broses ymgeisio, oni bai eu bod yn drosedd wedi'i warchod neu wedi'i hidlo.
Efallai na fydd cofnod troseddol yn gwahardd unigolyn rhag penodi yn awtomatig (gall mewn rhai achosion). Bydd asesiad risg datgelu cadarnhaol yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Templed Asesu Risg NFCC y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol, a bydd y Gwasanaeth yn ystyried a yw'r euogfarn neu'r rhybudd yn eu gwneud yn anaddas i'w penodi i'r rôl y maent wedi gwneud cais amdani. Os yw canlyniad yr Asesiad Risg yn dangos 'risg ganolig/uchel', ni fydd yr unigolyn yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer cyflogaeth.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r asesiad cymhwyster, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau’r camau nesaf fel rhan o’r broses.
Gweld copi o'r Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS
Gweld copi o'r Llawlyfr Ymarfer ar gyfer y Profion Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân
Gweld copi o'r Llawlyfr Ymarfer ar gyfer yr Holiadur Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân

