Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd

Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd

Ein Hymrwymiad i'r Amgylchedd a Bioamrywiaeth

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi'i ymrwymo i ddiogelu ein cymunedau a'r amgylchedd naturiol sy'n eu cynnal. Rydym yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd nid yn unig yn fater amgylcheddol ond yn her weithredol sy'n cynyddu. Mae tymheredd byd-eang yn codi a phatrymau tywydd sy'n newid yn cynyddu'r risg o danau gwyllt, llifogydd a digwyddiadau difrifol eraill, gan roi mwy o ofynion ar ein Gwasanaeth.

Er mwyn ymateb yn effeithiol, rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol a chefnogi bioamrywiaeth trwy arferion cynaliadwy. Mae ein dull yn canolbwyntio ar:

  • gweithredu technolegau ynni-effeithlon a hyrwyddo dulliau trafnidiaeth wyrdd.
  • cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau trwy fentrau rheoli a chadwraeth tir cyfrifol.
  • Paratoi ar gyfer a lliniaru risgiau tanau gwyllt a llifogydd trwy gynllunio rhagweithiol ac ymgysylltu â'r gymuned.
  • lleihau gwastraff, cadw dŵr, a dod o hyd i ddeunyddiau yn gyfrifol.
  • gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth ac annog stiwardiaeth amgylcheddol.

Mae uwch reolwyr yn arwain yr ymrwymiad hwn oherwydd bod diogelu'r amgylchedd yn hanfodol i'n cenhadaeth o ddiogelu bywyd ac eiddo. Trwy integreiddio cynaliadwyedd a gwytnwch hinsawdd ym mhopeth a wnawn, ein nod yw creu dyfodol mwy diogel a ecogyfeillgar i Ogledd Cymru.

Darganfyddwch sut mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lleihau ei ô troed carbon, yn diogelu bioamrywiaeth, ac yn paratoi ar gyfer risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd.

Strategaeth Amgylcheddol 2023-2030

2025-2028 Adroddiad a Chynllun Bioamrywiaeth

Cynllun Datgarboneiddio’r Fflyd

Cynllun Allyriadau Carbon Gweddilliol

Cynllun Datgarboneiddio Gwresogi 

Cynllun Datgarboneiddio Pŵer

2022-2025 Adroddiad a Chynllun Bioamrywiaeth

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen