Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2026 - 2027

Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2026 - 2027

Un o'r prif amcanion ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yw mynd ati’n barhaus ac mewn modd cynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.   

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â sut y bydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill. 

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol 2026 - 2027. Mae fersiwn hawdd ddarllen o'r cynllun ar gael.

Rydym am glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer 2026–2027.

Sut i roi adborth 

Mae'r ymgynghoriad ar agor o 23 Hydref i 14 Rhagfyr 2025 (hanner nos).

Bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu a'i gyflwyno i'r Awdurdod Tân ac Achub ym mis Ebrill 2026. Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi a bydd yn dod i rym ar unwaith.

Mae cwestiynau cyffredin ac Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb am yr ymgynghoriad hwn ar gael drwy'r dolenni isod neu ar yr ochr dde.

Cefndir

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hirdymor a amlinellir yn ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) 2024–2029. Dyma'r trydydd cynllun gweithredu blynyddol ac mae'n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill.

Gallwch gael mynediad at y CRMP 2024–2029 a'r Cynllun Gweithredu 2024–25 ar ein tudalen Cynlluniau Corfforaethol a Hunanasesiad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen