SWYDDOG DISGYBLU A CHŴYNION
Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Disgyblu a Chŵynion i ymuno â'r Uned Adnoddau Dynol a Chefnogi Busnes yn y Pencadlys yn Llanelwy (gyda rhywfaint o weithio ystwyth os gofynnir amdano).
Drwy gynnal ymchwiliadau trylwyr, effeithlon a theg, byddwch yn gyfrifol am ddarparu adroddiadau manwl, diduedd i gefnogi penderfyniadau rheolwyr mewn perthynas â materion disgyblu a chŵynion. Mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth a data, cynnal cyfweliadau a chadw cofnodion cyfrinachol cywir. Byddwch yn gyfrifol am baratoi dogfennaeth ar gyfer gwrandawiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen, a’u cyflwyno yn y gwrandawiadau. Bydd y dyletswyddau gweinyddol cysylltiedig yn cynnwys drafftio llythyrau, paratoi datganiadau ac adroddiadau.
Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau cyflwyno da, gyda phrofiad o gyfweld ac â'r gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth, crynhoi manylion a chyflwyno adroddiadau ffurfiol. Bydd gennych wybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth berthnasol ac arfer da a sgiliau trefnu rhagorol i reoli eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid er mwyn delio â cheisiadau wrth iddyn nhw godi a bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

